1925
Elvet Howell Lewis - Elfed (1860 - 1953) Yr emynydd mawr yn cofio'i fagwraeth Pregethwr, bardd, Archdderwydd ac un o hoff emynwyr Cymru. Ganwyd ef yng Nghynwyl Elfed ac aeth i Goleg Presbyteraidd Cymru, Caerfyrddin. Enillodd y goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1888 ac 1891 ac yna'r gadair yn 1894. Bu'n gweinidogaethu yng Nghymru a Lloegr ond cysylltir ef yn bennaf â chapel Tabernacl Kings Cross yn Llundain lle bu'n weinidog ar griw o Gymry Llundain o 1898 i 1940. Nid crefydd na llenyddiaeth yw byrdwn y sgwrs fach hon ond hanes ei filltir sgwâr, ei fachgendod, a'r dasg o ddysgu Saesneg.
Clipiau perthnasol:
O Cloddio'r Aur darlledwyd yn gyntaf 13/01/1987
Er mwyn ichi wylio'r darn hwn bydd rhaid ichi osod chwaraewyr Real ar eich cyfrifiadur. Cewch gymorth yma i osod RealPlayer, ac i
|