1928
Gwersyll yr Urdd Gwersyll cyntaf Urdd Gobaith Cymru, mudiad ieuenctid y Gymraeg Un o ddatblygiadau pwysicaf o ran hybu a gwarchod y Gymraeg yn yr ugeinfed ganrif oedd sefydlu Urdd Gobaith Cymru gyda'i llu o aelwydydd ar draws y wlad. Cafodd gwersyll cyntaf y mudiad ei gynnal yn Llanuwchllyn ym 1928 - a hwnnw mae Hywel D. Roberts yn ei gofio yma. Maes o law, yn 1932, agorwyd Gwersyll yr Urdd yn Llangrannog, rhwng Aberteifi a Cheinewydd. Dyma wireddu breuddwyd Syr Ifan ab O.M. Edwards o sicrhau safle parhaol i'r gwersyll. Cynigwyd y cae iddo gan D.Owen Evans, perchennog plasty Rhydycolomennod. Adeiladwyr lleol gododd y cabanau. Yn y flwyddyn gyntaf trefnwyd mis o wyliau - pythefnos i'r bechgyn a phythefnos i'r merched.
Clipiau perthnasol:
O Cloddio'r Aur darlledwyd yn gyntaf 23/07/1995
Er mwyn ichi wylio'r darn hwn bydd rhaid ichi osod chwaraewyr Real ar eich cyfrifiadur. Cewch gymorth yma i osod RealPlayer, ac i
|