1977
Norah Isaac Yr awdur a'r athrawes a'i chartref ysbrydol Un o ferched Cwm Maesteg oedd Norah Isaac ( 1914 - 2003 ). Ganwyd hi yn y Caerau. Soniodd yn aml am ei chartref fel ynys fach o Gymreictod mewn môr o Seisnigrwydd ac am gymdeithas glos a chynnes ei hardal enedigol. Aeth i Goleg y Barri ym Mro Morgannwg i hyfforddi'n athrawes. Pan agorwyd Ysgol Lluest, sef ysgol Gymraeg Urdd Gobaith Cymru Aberystwyth, yn 1939, hi oedd yr athrawes gyntaf yno, gyda saith o blant yn ei dosbarth. Bu'n ysbrydoliaeth i genedlaethau o blant a phobl ifainc yn ddiweddarach yn Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin. Roedd hi'n siaradwraig loyw, ddifyr a lliwgar. 'Roedd yr Eisteddfod yn bwysig iawn iddi hi. "Hon" meddai "yw'r Injan Dân sy'n cadw'r iaith yn gynnes". Yn y darn hwn, aiff yn ôl i'w chartref ysbrydol yng nghwmni Alun Evans.
Clipiau perthnasol:
Canfod mwy am...
O Bro Nebyd, Cloddio'r Aur darlledwyd yn gyntaf 1977, 15/04/1987
Er mwyn ichi wylio'r darn hwn bydd rhaid ichi osod chwaraewyr Real ar eich cyfrifiadur. Cewch gymorth yma i osod RealPlayer, ac i
|