1962
Ifan ab O. M. Edwards (1895 - 1970) Gobaith newydd i'r iaith gyda geni'r Urdd Ganwyd Ifan ab O.M.Edwards yn Llanuwchllyn yn fab i'r addysgwr enwog Syr O.M.Edwards a wnaeth gymaint dros addysg yng Nghymru. Aeth Ifan ab Owen Edwards i goleg Aberystwyth i ddarllen Hanes. Yna yn 1922 cyhoeddodd ei fwriad i sefydlu Urdd Gobaith Cymru. Swllt oedd y tâl aelodaeth i unigolion ac yn fuan ffurfiwyd yr Adrannau cyntaf yn Nhreuddyn, Sir y Fflint, ac yn Abercynon yn y De. Sefydlwyd cylchgronau i'r aelodau sef Cymru'r Plant a Deryn, ac fe drefnwyd ymgyrch flynyddol i werthu llyfrau Cymraeg.Yn ddiweddarach yn 1939, sefydlodd Syr Ifan yr ysgol gynradd Gymraeg gyntaf yn Aberystwyth. Urddwyd ef yn farchog yn 1947.
Clipiau perthnasol:
Canfod mwy am...
O Dylanwadau: Ifan ab Owen Edwards darlledwyd yn gyntaf 18/04/1962
Er mwyn ichi wylio'r darn hwn bydd rhaid ichi osod chwaraewyr Real ar eich cyfrifiadur. Cewch gymorth yma i osod RealPlayer, ac i
|