1960
Iorwerth Peate Y gweledydd a wireddodd ei freuddwyd o sefydlu Amgueddfa Werin i Gymru Ganwyd y bardd a'r ysgolhaig Iorwerth Cyfeiliog Peate (1901 - 1982) yn Llanbrynmair yn Sir Drefaldwyn ac er iddo fyw ar gyrion Bro Morgannwg am y rhan fwyaf o'i oes, 'roedd ei gariad at ei fro enedigol yn amlwg yn ei gerddi a'i sgwrs. 'Roedd yn heddychwr ac yn 1940 collodd ei swydd dros dro yn yr Amgueddfa Genedlaethol o'r herwydd. Teimlai'n gryf mai unig obaith y Gymraeg oedd sicrhau Cymru uniaith. Ei freuddwyd fawr oedd sefydlu amgueddfa werin yng Nghymru er mwyn diogelu crefftau a diwylliant cefn gwlad Cymru. Gwireddwyd ei freuddwyd yn 1948, pan benodwyd ef yn Guradur cyntaf Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan.
Clipiau perthnasol:
Canfod mwy am...
O Dylanwadau: Iorwerth C Peate darlledwyd yn gyntaf 28/07/1960
Er mwyn ichi wylio'r darn hwn bydd rhaid ichi osod chwaraewyr Real ar eich cyfrifiadur. Cewch gymorth yma i osod RealPlayer, ac i
|