1976
Pobol y Cwm Cwm enwocaf Cymru yn cael ei roi ar y map Ar yr 16eg o Hydref 1974 gwelwyd pentref newydd ar fap Cymru. Neu, a bod yn fwy manwl, ar fap Dyfed ac ardal Cwm Gwendraeth. Cwmderi yw'r pentref, sef canolbwynt a sylfaen y ddrama gyfres deledu boblogaidd "Pobol y Cwm". Pentref dychmygol diwydiannol Cymreig yw Cwmderi. Dros y blynyddoedd, fe ddaeth y pentref a'i drigolion yn gyfarwydd iawn i wylwyr ³ÉÈËÂÛ̳ Cymru ac yn ddiweddarach S4C. I ddechrau, taro mewn yn wythnosol i ddilyn hynt a helynt y trigolion oeddem ni, ond erbyn hyn mae pentref Cwmderi ar y sgrîn fach o nos Lun at nos Wener, gyda rhaglen omnibws ar y Sul.
Clipiau perthnasol:
Canfod mwy am...
O Pobol y Cwm darlledwyd yn gyntaf 30/01/1976
Er mwyn ichi wylio'r darn hwn bydd rhaid ichi osod chwaraewyr Real ar eich cyfrifiadur. Cewch gymorth yma i osod RealPlayer, ac i
|