1995
Ponty Ray Gravel yn actio mewn opera sebon gyntaf radio Cymraeg Drama sebon ddyddiol gyntaf Radio Cymru yn 1995 oedd Ponty. Tref ddychmygol yn ne Cymru oedd Ponty, gyda gwaith glo, clwb rygbi, clwb bingo a chanolfan chwaraeon. Cafodd y gwrandawyr gyfle i ddod i adnabod y trigolion, gyda digon o droeon trwstan a digon o hiwmor. Y cwmni Tacsi (Ray Gravel, y cyn chwaraewr Rygbi, yw Malcom y perchennog) oedd canolbwynt y storïau a'r gyrwyr a gariai holl glecs y pentref wrth iddyn nhw gludo'r teithwyr o fan i fan.
Clipiau perthnasol:
O Ponty darlledwyd yn gyntaf Medi 1995
Er mwyn ichi wylio'r darn hwn bydd rhaid ichi osod chwaraewyr Real ar eich cyfrifiadur. Cewch gymorth yma i osod RealPlayer, ac i
|