1976
R S Thomas Un o feirdd mwyaf yr ugeinfed ganrif yng Nghymru Ganwyd R.S.Thomas (1913 - 2000) yng Nghaerdydd ond wedi cyfnodau yn Lloegr fe symudodd ei deulu i Gaergybi yn 1918. Wedi addysg ym Mangor a chwrs hyfforddi offeiriaid yng Ngholeg San Mihangel Llandaf, bu'n gurad ar y Gororau ac yn rheithor ym Manafon, Sir Drefaldwyn. Yno yr ysgrifennodd ei gerddi cynnar, ac yno hefyd y dysgodd siarad Cymraeg, er mai yn y Saesneg, ei famiaith, y daeth yn enwog fel un o feirdd mwyaf y ganrif yng Nghymru. Fe fu iaith, llenyddiaeth a diwylliant Cymru yn bwysig iawn iddo am weddill ei oes. Gwahoddwyd ef i ddarlithio ym Mhabell Lên Eisteddfod Aberteifi 1976 ac fe gymerodd ei destun o ganu Llywarch Hen, lle sonnir am fan o'r enw Abercuawg, lle'r arferai'r cogau ganu.
Clipiau perthnasol:
Canfod mwy am...
O Tocyn Wythnos darlledwyd yn gyntaf 06/08/1976
Er mwyn ichi wylio'r darn hwn bydd rhaid ichi osod chwaraewyr Real ar eich cyfrifiadur. Cewch gymorth yma i osod RealPlayer, ac i
|