成人论坛

Explore the 成人论坛
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

成人论坛 Homepage
成人论坛 Cymru
成人论坛 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人论坛 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 Pwll glo Abergorki 漏 atwelshcoalmines.co.uk Sefydlu Porthladd y Barri a Chwmni Rheilffordd y Barri
Ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, y cyfan oedd yn ardal y Barri oedd tri phentref bychan ac ychydig o ffermydd - a lloches i smyglwyr oedd Ynys y Barri.
Ymhen canrif, hwn oedd lleoliad un o'r mentrau diwydiannol mwyaf llwyddiannus yn ne Cymru.

Mewn un degawd, rhwng 1870 a 1880, fe ddyblodd nifer y llwythi glo a gafodd eu cario ar longau drwy Gaerdydd - o 3,246 tunnell i 5,856, gyda mwy a mwy o lo yn dod o gymoedd y Rhondda.

Ond roedd y twf wedi digwydd mor gyflym fel nad oedd modd i strwythur y dociau ymdopi. C芒i glo ei symud yn barhaol o'r talcenni glo i wagenni rheilffordd ac yna i'r porthladd, lle c芒i llongau eu llwytho ger glanfeydd glo arbenigol.

Bu dryswch oherwydd nid oedd trefn ar pryd y byddai'r llongau'n cyrraedd, ac roedd y llanw yn cyfyngu ar eu symudiadau hefyd. Yn aml iawn, roedd trenau glo yn gorfod aros yn y dociau, ac fe adeiladwyd cilffyrdd helaeth er mwyn eu cadw. Roedd yr oedi hwn wrth gludo glo yn golygu bod y perchnogion glo yn colli arian ac yn wynebu costau cynyddol.

Cafodd perchnogion glo y Rhondda ffrae gyda Rheilffordd Dyffryn Taf, oedd yn cario eu glo i Gaerdydd ac i Benarth. Cawsant ffrae hefyd gyda dociau Bute, dros d芒l cludiant a thros dagfeydd. Roedden nhw'n cwyno am oedi wrth fynd 芒'r glo i'r porthladd, wrth lwytho'r cargo, wrth gael y cychod i mewn ac allan o'r dociau yn yr amser byrraf posibl ac wrth ddychwelyd tryciau'r glofeydd yn brydlon.

Yn ogystal at hyn oll roedd Ymddiriedolwyr Bute a'r Ardalydd ei hun yn gyndyn i fentro gormod o arian ar gynyddu'r adnoddau yn y dociau, ac, er eu bod wedi sicrhau s锚l bendith y Senedd ar gyfer adeiladu Doc y Rhath ym 1874, wnaethon nhw ddim fwrw ymlaen 芒'r cynllun. Felly rhwng 1870 ac 1880, er bod allforion glo wedi dyblu bron, dim ond pedair glanfa lo newydd a gafwyd yng Nghaerdydd a Phenarth yn ystod y cyfnod hwn, gyda'r nifer yn cynyddu o 62 i 66.

Gwrthdaro rhwng perchnogion
Daeth yr anghydfod i ben ym 1882 pan benderfynodd Ymddiriedolwyr Bute yn y pen draw i gario ymlaen ag adeiladu Doc y Rhath. Yr un pryd fe gynigion nhw ychwanegiad o 1c y dunnell i holl lwythi Doc Bute ar gyfer 'gwasanaethau rhad'.

Dyna a sbardunodd perchnogion glo y Rhondda i adeiladu eu doc a'u rheilffordd integredig eu hunain. Cawsant eu harwain gan David Davies, un o ffigurau mwyaf blaenllaw datblygiad diwydiannol Cymru. Dyn yn enedigol o Landinam, Sir Drefaldwyn, ydoedd, a'i fentrau cyntaf oedd adeiladu rheilffyrdd, yn bennaf yng nghanolbarth Cymru, cyn iddo symud i'r busnes glo a sefydlu'r Ocean Company.

Roedd hyrwyddwyr y rheilffordd yn cynnwys holl berchnogion blaenllaw glofeydd Cymoedd y Rhondda. Fe archwilion nhw morydiau'r Barri ac Ogwr fel dewisiadau posibl cyn penderfynu adeiladu eu doc newydd yn y Barri. Fe gyflwynon nhw eu Bil Doc a Rheilffordd y Barri yn ystod sesiwn seneddol 1883. Cafodd ei drechu, yn bennaf oherwydd gwrthwynebiad gan Ddociau Bute a Rheilffordd Dyffryn Taf ond cafodd ei basio yn y sesiwn nesaf a derbyniodd Gydsyniad Brenhinol ar 14 Awst 1884. Roedd wedi costio 拢70,000 i'r hyrwyddwyr.

Llwyddiant y fenter
Yn wreiddiol cafodd y cwmni ei enwi'n Gwmni Dociau a Rheilffordd y Barri, ond fe gafodd enw'r cwmni ei newid i Gwmni Rheilffordd y Barri ym 1891. Yr Arglwydd Windsor - a gr毛wyd yn Iarll Plymouth ym 1905, ac a oedd yn berchen ar lawer o'r tir yn y Barri, oedd y cadeirydd a David Davies, y dirprwy gadeirydd, oedd i bob pwrpas yn brif weithredwr.

Cafodd y rheilffordd ei chwblhau ym 1888. Roedd y brif lein o Drehafod i'r Barri yn 18 milltir o hyd gydag ychydig ganghennau bychain. Roedd gan y cwmni hefyd yr hawl i rhedeg ar linellau cwmn茂oedd eraill. Erbyn 1922, pan gafodd ei uno gyda'r Great Western roedd ganddi 68 milltir o lwybrau teithio a phwerau rhedeg sylweddol. Yn ogystal 芒 glo, roedd hefyd yn rhedeg gwasanaeth i deithwyr o'r maestrefi, gan gynnwys teithiau gwyliau i Ynys y Barri, ac am amser byr, roedd yn rhedeg llongau ager ar F么r Hafren hefyd.

Roedd y doc yn y Barri yn cynnwys 73 erw a chyfanswm cost y prosiect gwreiddiol oed 拢2 miliwn. Cafodd y dywarchen gyntaf ei thorri gan yr Arglwydd Windsor ar 14 Tachwedd 1884. Cafodd d诺r ei ollwng i mewn i'r doc ar 19 Mehefin 1889, gyda'r agoriad seremon茂ol a'r dathliadau yn cael eu cynnal ar 18 Gorffennaf 1889, gyda dwy fil o westeion yn bresennol. Arweiniwyd y seremoni gan David Davies, gan na allai'r Arglwyddes Windsor, a oedd i fod i agor y doc, fod yn bresennol.

Cafodd Rheilffordd y Barri ei hyrwyddo gan ei gwsmeriaid, perchnogion glo y Rhondda, fel modd i ddarparu cludiant ar gyfer eu masnach, oedd yn dal i dyfu. Roedd y rheilffordd hon yn elfen bwysig yn ffyniant y diwydiant glo yn yr ardal yn ystod y cyfnod 1890 - 1914.

Fel menter busnes bu'n llwyddiant yn syth, ac fe gafodd ail ddoc ei agor ym 1898. Y flwyddyn ganlynol cafodd y doc ei ddefnyddio gan 3,000 o longau a bu'n trafod 7 miliwn tunnell o lo. Erbyn 1913, roedd cyfanswm trafnidiaeth y doc wedi codi i 4,000 o longau ac 11 miliwn tunnell o lo.

Newid natur ardal gyfan
Cyflawnwyd y twf hwn, i ryw raddau, drwy fod y cwmni yn adeiladu ei linellau newydd ei hun - yn fwyaf arbennig i Gwm Rhymni ac i mewn i Gaerdydd. Allwedd arall i'r llwyddiant oedd i'r cwmni gynghreirio gyda Rheilffordd Bro Morgannwg, oedd yn rhedeg i Ben-y-Bont ar Ogwr a Thondu. A'r elfen bwysicaf oll yn llwyddiant y fenter oedd i'r cwmni sicrhau hawliau rhedeg dros linellau cwmn茂au eraill.

Cafodd ei helpu hefyd gan y prisiau cystadleuol roedd yn gallu eu cynnig, o ganlyniad i'r ffaith ei fod yn fusnes dociau a rheilffordd wedi ei integreiddio. Er hynny, doedd ei ddatblygiad ddim yn hawdd oherwydd fe ymosodwyd arno'n barhaus gan Ddyffryn Taf ac eraill, trwy gyfreitha a thrwy brisio a marchnata ymosodol. Mae llyfrau cofnodion y cwmni yn s么n am wrthwynebiad i'w gynlluniau, yn ogystal 芒'i wrthwynebiad ei hun i gynlluniau mentrau rheilffyrdd a dociau eraill.

Parhaodd Rheilffordd y Barri am lai na 40 mlynedd ond roedd yn ail i Reilffordd Dyffryn Taf, a gafodd ei sefydlu hanner can mlynedd ynghynt, mewn maint a phwysigrwydd; roedd yn gystadleuol, yn llwyddiannus ac yn llewyrchus, yn talu rhandaliadau blynyddol o 9.5 a 10 y cant. Roedd y fenter yn cyfiawnhau penderfyniad perchnogion glo y Rhondda ac roedd yn dangos eu hannibyniaeth oddi wrth y cwmn茂au dociau a rheilffyrdd eraill a oedd, tan hynny, wedi bod yn gweithredu monopoli ar fasnach lo Caerdydd.

Doedd ei cyfraniad i hanes de Cymru ddim wedi ei gyfyngu i reilffordd a dociau llwyddiannus ychwaith. Menter y perchnogion glo yma a greodd dref y Barri a chyrchfan wyliau Ynys y Barri, gyda'r Ynys honno yn darparu gwyliau glan y m么r i genedlaethau o deuluoedd o dde Cymru a thu hwnt.

漏 Richard Watson.



Cyfrannwch

Huw Griffiths o Llanelli
Mae y tudalen hyn yn arbennig. Rydw i'n gwneud project ar y cylchdro diwidianol.


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

Sylw:




Mae'r 成人论坛 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人论坛 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人论坛 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy