Yn hanesyddol, 'Y Gloran' yw'r enw ar yr ardal hon o Gwm Rhondda.Serch hynny, 'does gan yr enw hwn, er mawr syndod efallai, ddim o gwbwl i'w wneud 芒 glo. Daw'r teitl o ynganiad pobl yr ardal o'r gair "cloren" sef "cynffon".
Arferwyd y gair i ddisgrifio plwyf Ystradyfodwg, (a gynhwysai'r rhan fwyaf o Gymoedd y Rhondda Fawr a'r Rhondda Fach) oherwydd i ffiniau'r plwyf hwnnw, ar un adeg, ymestyn draw i'r Hirwaun yng Nghwm Cynon, ac felly roedd yn ffinio 芒 phlwyf Penderyn, Sir Frycheiniog. Ar fap roedd hyn yn ymddangos fel 'cynffon' Sir Forgannwg a ymwthiai i Sir Frycheiniog.
Yn yr Oesoedd Canol roedd yr ymadrodd "Ymswynwch rhag g诺r y Gloran" ar dafod leferydd pobol Morgannwg a Sir Frycheiniog.
Wrth gwrs nid yw'r ymadrodd hwn yn dal yn fyw heddiw ac yn sicr, erbyn hyn does dim eisiau i neb groesi eu hunan i osgoi "anwareidd-dra" pobol Cymoedd y Rhondda.
Yn wir, yr unig gysylltiad 芒'r Oesoedd Canol erbyn hyn yw'r Ffynnon Fair (yn ogystal 芒 dyrnaid o ffermydd) sydd wedi'u lleoli islaw ystad dai Penrhys ar lethrau Mynydd Pen-rhiw-gwynt.
Fe fu'r ffynnon yn enwocach yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg fel ffynhonnell d诺r ar gyfer gwella anhwylder y stumog, yn arbennig ymysg y glowyr a ddaeth yn llu i'r cymoedd hyn yn 60au a 70au'r ganrif honno na man gwyrth eilun o'r Forwyn Fair yn syrthio o'r nefoedd.
Sefydlu pentrefi'r cymoedd
Yn y cyfnod hwn y sefydlwyd y trefi a'r pentrefi, Y Gelli, Ton Pentre, Y Pentre, Treorci, Cwmparc, Treherbert, Blaenrhondda a Blaen-y-cwm (sef Blaenau' Rhondda Fawr - dalgylch papur bro Y Gloran ).
Newidiodd hyn natur y Cwm yn gyfan gwbwl gyda choedwigoedd helaeth yn diflannu a hysbysebion yn y papurau newyddion fel yr un am werthu 480 derwen a oedd yn tyfu ar Ben-rhiw-gwynt i'r llynges a gweithfeydd eraill yn mynd yn ddim ond atgof mewn byr o dro.
Gwelir pa mor gyflym y sefydlwyd y trefi a grybwyllir uchod a pha mor ddwys oedd y boblogaeth wrth ystyried twf poblogaeth Cymoedd y Rhondda.
Ym 1801 roedd 542 yn byw yma, erbyn 1871 roedd y nifer wedi codi i 16,914, ac erbyn 1891 roedd wedi cyrraedd 88,351, - rhyw 2,000 yn fwy na phoblogaeth Ceredigion yn y cyfnod.
Dal i gynyddu tan y dirwasgiad wnaeth poblogaeth y Rhondda, gan gyrraedd 169,000 ym 1924. Erbyn hyn mae'r boblogaeth wedi crebachu i tua 70,000.
Dirywiad yn y Gymraeg
Yn 么l Cyfrifiad 2001 tua 11% o'r boblogaeth sy'n Gymry Cymraeg. Mae'r canran hwn yn dangos maint y dirywiad a ddigwyddodd i'r iaith trwy gydol yr ugeinfed ganrif, oherwydd ar ddechrau'r ganrif ddiwethaf roedd mwy na 50% o boblogaeth y Rhondda yn Gymry Cymraeg.
Un o'r rhesymau am y dirywiad hwn oedd tuedd rhieni Cymraeg i fagu'u plant yn Saeson uniaith. Dyma, yn bennaf, sydd i gyfrif am ddiflaniad llwyr yr iaith yn rhai o strydoedd Treorci tra ym 1891 roedd mwy na 95% o'r boblogaeth yn Gymry Cymraeg.
Er nad oedd gan y mwyafrif o Gymry yr awydd i ddysgu'r iaith i'w plant, roedd bywyd diwylliannol y Cwm yn yr iaith yn ffynnu, nid yn unig y capeli a fu'n ganolfannau pwysig iawn - roedd seddau i 85,000 o bobol yng nghapeli'r Cwm ar ddechrau'r ugeinfed ganrif - ond hefyd yn y gymdeithas yn gyffredinol.
Ben Bowen y bardd
Mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn hanes bywyd y bardd-l枚wr Ben Bowen (1878 -1903) o Dreorci.
Dechreuodd, fel y rhan fwyaf o'i gyfoedion, weithio yn y lofa yn 12 oed. Ymhen pum mlynedd enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol Penrhiwceibr a hyd yn hyn, ef yw'r ieuengaf i ennill yr anrhydedd.
Wedi hyn, a chyfnod o astudio yn Academi Pontypridd, aeth i Goleg Prifysgol Caerdydd lle y meistrolodd yr ieithoedd clasurol yn ogystal 芒'r Almaeneg.
Yn anffodus, bregus iawn oedd ei iechyd ac ym 1901 aeth i Dde Affrica i weld a fyddai hinsawdd y wlad honno yn llesol i'w iechyd. Talwyd iddo fynd yno gan ymdrechion codi arian ei gyn-gydweithwyr a phobol ei dref enedigol.
Ym mhen blwyddyn dychwelodd i Gymru ac aeth ati i ysgrifennu cyfres o erthyglau diwinyddol. Ond yn 么l arweinwyr ei enwad, roedd y syniadau yn y rhain yn anuniongred. O ganlyniad cafodd ei ddiarddel o'i gapel, sef Moriah, Y Pentre. Bu farw yn ddyn ifanc yn 25 oed.
Mae hanes Ben Bowen yn dangos cymaint oedd grym capeli ei gyfnod a hefyd yr afael oedd ganddyn nhw ar y gymdeithas. Erbyn heddiw mae capeli'r Cwm, Cymraeg a Saesneg eu cyfrwng, naill ai wedi'u cau neu'n gwegian dan bwysau seddau gweigion.
Kitch
Doedd sefyllfa'r capeli ddim mor argyfyngus 芒 hyn ond roedd sefyllfa economaidd y Cwm mewn cyflwr gwaeth pan ddaeth y bardd-wleidydd James Kitchener Davies i ddysgu yma o gefn gwlad Ceredigion ym mlwyddyn y Streic Gyffredinol, 1926.
Mae dau ddarn o waith 'Kitch' yn arbennig, yn adlewyrchu ei farn am sefyllfa Cwm Rhondda yn y 30au hyd y 50au, sef ei ddrama Cwm Glo a'i bryddest S诺n y Gwynt sy'n Chwythu.
Mae'r gweithiau hyn yn bwysig nid yn unig oherwydd eu gwerth artistig ond hefyd am eu bod yn cynnwys sylwebaeth gwladwr o Gymro twymgalon ar ffawd disgynyddion y miloedd a bentyrrodd, mewn cyfnod cynharach, i Gwm Rhondda o gefn gwlad.
Un o'r bobol hynny oedd y bardd a'r cynhyrchydd teledu, Rhydwen Williams, a gafodd ei eni yn Y Pentre ym 1916. Hyd heddiw mae'r cof amdano'n fyw ymysg y to h欧n.
Mae ei gefnder, Tom Williams, yn ei gofio fel un a oedd yn eiddgar iawn i gadw cysylltiad agos 芒'i deulu yn y Cwm. G诺r yw Tom nad yw'n gallu siarad Cymraeg er mai Cymry Cymraeg oedd ei rieni, a'i dad yn eisteddfodwr brwd - enillodd y wobr gyntaf am draethawd ar y testun 'Profiadau Gl枚wr' yn Eisteddfod Caerffili.
Yn Eisteddfod Caerffili hefyd yr enillodd Rhydwen y Goron am ei gerdd Y Ffynhonnau - cerdd sy'n dathlu ail sefydlu'r Gymraeg yn y Cwm trwy gyfrwng yr ysgolion Cymraeg.
Yn sicr, fe fyddai Rhydwen yn falch iawn o'r ffaith bod rhyw draean o blant y Cwm yn mynychu'r ysgolion hyn erbyn heddiw.
Er bod y Gymraeg wedi bod ar drai yn y Cwm, erbyn hyn gellir dweud i sicrwydd bod yr iaith ar gynnydd ac yn sicr nid yw'r ymwybyddiaeth o hunaniaeth Gymreig, hyd yn oed yn nofelau awduron Cymreig megis Gwyn Thomas, un arall a aned i rieni Cymraeg eu hiaith, erioed wedi diflannu.
John Evans