Cafodd yr adeilad nodedig ei greu gan ddeunydd a gariwyd dros y d诺r o Norwy a'i godi'n wreiddiol i'r de-orllewin o Ddoc Gorllewin Bute.
Cenhadaeth forwrol oedd yr eglwys yn y lle cyntaf, ond roedd hefyd yn lle tebyg i gartref y morwyr, ble gallent ddarllen papurau newydd a chylchgronau o adref, ysgrifennu llythyrau at eu cariadon, ymlacio a sgwrsio 芒 ffrindiau.
Bu i deulu'r awdur Roald Dahl fynychu'r eglwys ac fe gafodd ef ei hun ei fedyddio yno yn 1916.
Yn ystod yr ail ryfel byd gweithredai'r eglwys fel banc yn ogystal, lle gallai'r morwyr ddiogelu eu heiddo tra ar y m么r. Ar un cyfnod, penderfynwyd paentio'r eglwys yn wyrdd fel na fuasai mor amlwg i'r gelyn.
Wrth i Ddociau Caerdydd ddirywio, felly hefyd y gynulleidfa ac ymwelwyr i'r eglwys. Dadgysegrwyd yr eglwys a'u chau yn 1970, gan droi'n adfail drwy ddiffyg cynnal a chadw a fandaliaeth.
Ynghanol yr 1980au arweiniodd Dahl yr ymdrech i gychwyn Ymddiriedolaeth Cadwraeth yr Eglwys Norwyeg i achub yr adeilad ac i godi arian i'w datgymalu a'i hadleoli yng nghanol dociau hanesyddol Caerdydd.
Datgymalwyd yr eglwys yn 1987 a'i symud i leoliad newydd ger Basn y Rhath. Roald Dahl oedd llywydd cynta'r ymddiriedolaeth ond bu farw ar 23 Tachwedd 1990, cyn cwblhau'r adluniad.
Ail agorwyd yr eglwys gan y Dywysoges Martha Louise o Norwy ar 8fed Ebrill 1992. Er nad yw'r eglwys a ailadeiladwyd wedi ei chysegru, mae'r adeilad heddiw yn adlewyrchu naws heddychlon a thawel yr eglwys.
Mae gan yr Eglwys Norwyeg yn awr le i gaffi bychan ac fe'i defnyddir fel lleoliad ar gyfer cyngherddau cerddorol bychan, arddangosfeydd a derbyniadau priodas.
Wrth i chi adael yr eglwys gwnewch eich ffordd ar hyd y lanfa. Fe welwch arysgrifau wedi eu cerfio yn y wal isel gerllaw. Dyma siantis y m么r wedi eu hysgrifennu mewn ieithoedd gwahanol i adlewyrchu natur gosmopolitan Bae Caerdydd.
Cliciwch ar yr erthyglau yn y rhestr ar ochr dde y dudalen hon i barhau 芒'r daith.Yn 么l i gychwyn y daith
|