Ger glan y d诺r fe welwch y cerflun efydd hwn o b芒r ifanc gyda'u ci a gr毛wyd gan John Clinch yn 1993. Mae'n dathlu'r bobl fu'n byw a gweithio'n lleol ym Mae Caerdydd.
Mae Bae Caerdydd, Butetown neu Tiger Bay fel y mae'n cael ei adnabod hefyd, yn wahanol iawn heddiw i'r hyn a fu.
O ganlyniad i'r twf yn Butetown yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac yn gynnar yn yr ugeinfed ganrif tyfodd yr ardal ddociau gyfagos i fod yn gymuned gosmopolitan gyda morwyr o bob rhan o'r byd yn gwneud Caerdydd yn gartref iddynt. Amcangyfrifir bod pobl o tua 50 o genhedloedd gwahanol wedi setlo yma.
Y gymysgfa yma o wladychwyr gynorthwyodd i adeiladu'r dociau, gweithio ar y llongau gan helpu i wasanaethu'r ddinas ddiwydiannol a morwrol hon.
Mae'r gantores Shirley Bassey, un o bobl enwoca'r ardal, yn esiampl dda o gymysgfa ddiwylliannol yr ardal. Roedd ei mam Seisnig ddosbarth gweithiol Eliza a'i thad Henry, morwr o Nigeria, yn byw yn yr ardal ethnig gymysg ddaeth i'w adnabod fel Tiger Bay.
Ceir sawl theori sut y cafodd Tiger Bay ei enw. Un theori yw bod morwyr ddeuai i Gaerdydd dros F么r Hafren yn cyfeirio at y d诺r gwyllt fel teigrod cynddeiriog.
Roedd yr ardal yn fagnet i bobl oedd yn caru cerddoriaeth - gan ymweld 芒 llefydd fel y Casablanca, y Quebec, y Big Windsor, y Westgate, y Bute, y Ship and Pilot a llawer mwy. Roedd dros gant o dafarnau yn Tiger Bay, nifer ohonynt bellach wedi diflannu.
Yn ogystal 芒'r Shirley Bassey ifanc, roedd y cerddorion lleol yn cynnwys y gitaryddion Victor Parker a Joe a Frank Deniz.
Roedd yr ardal yn hafan ar gyfer dynion du Americanaidd y lluoedd arfog oedd yn cael eu hanwybyddu gan gymunedau yn agos i'w canolfannau yn Lloegr. Yn 么l i gychwyn y daith
|