Dyma'r hanesydd lleol Neil Sinclair i'n tywys drwy'r hyn arferai ddigwydd yn y dociau sych.
"Buasai'r ardal gyfan wedi bod yn llawn llongau. Byddai'n rhaid iddynt ddewis eu hamser i ddocio yn ofalus iawn. Buasai llongau oedd angen eu hatgyweirio ond yn gallu hwylio i'r doc pan oedd y llanw i mewn oherwydd pan oedd y llanw ar drai dim ond fflatiau llaid oedd i'w canfod.
"Unwaith fuasai'r llongau i mewn, buasai gatiau'r loc yn cau ac unwaith fyddai'r llanw ar drai buasai'r t欧 pwmpio yn dechrau draenio'r d诺r o'r doc. Gallwch weld yr adeilad bric coch ger agoriad y doc.
"Pe bai gan y llong broblemau gyda'r injan buasai'n cael ei godi gan graen a'i symud i'r sied atgyweirio.
"Mae adeilad y Techniquest, sy'n gartref i amgueddfa wyddonol ryngweithiol, yn edrych fel adeilad modern ond mae wedi ei adeiladu ar sylfeini a waliau'r sied atgyweirio fawr oedd yno pan oedd y dociau mewn defnydd.
"Ni allai'r awdurdodau ddinistrio'r sied oherwydd bod cragen y gweithfeydd atgyweirio yn adeilad rhestredig. Felly fe benderfynwyd adeiladu ar frig yr adeiledd gwreiddiol a dyna pam y mae ar ffurf mor unigryw."
Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf o 1914 i 1918 defnyddid y dociau'n helaeth ar gyfer cynnal a chadw llynges Prydain.
O'r fan hon, ewch am y chwith a throi i'r dde yn syth cyn dod at yr hen d欧 pwmpio.
Yn 么l i gychwyn y daith
|