Gwylio'n fyw
Bydd gweddarllediad byw o'r pafiliwn, ar gael yn genedlaethol, ar y wefan hon o 10.00am bob bore pan mae'r cystadlu'n cychwyn tan ddiwedd y cystadlu gyda'r hwyr.
Clipiau fideo
Yn ystod wythnos yr Eisteddfod (o ddydd Sadwrn 30 Gorffennaf i ddydd Sadwrn 6 Awst) gellir gwylio eitemau o raglenni teledu uchafbwyntiau nosweithiol 成人论坛 Cymru o'r Maes a Newyddion trwy fynd i adran Sain a Fideo y wefan hon. Mae clipiau o archif 成人论坛 Cymru ar gael i'w gwylio cyn yr Eisteddfod. Bydd y clipiau hyn yn parhau ar y wefan am flwyddyn wedi'r Eisteddfod ddod i ben.
Canlyniadau
Bydd clipiau fideo o'r cystadleuwyr sy'n cael y wobr gyntaf, ail a thrydydd mewn pob cystadleuaeth llwyfan (Pafiliwn yn unig) ar gael ar y wefan hon yn yr adran 'Canlyniadau'. Bydd y clipiau hyn yn parhau ar y wefan am flwyddyn wedi'r Eisteddfod ddod i ben.
Tocyn Wythnos
Gallwch wylio gweddarllediad o ragen Radio Cymru Tocyn Wythnos ar y wefan hon yn ystod wythnos yr Eisteddfod.
Gwylio a gwrando eto
Bydd modd gwylio a gwrando ar raglenni'r Eisteddfod ar ac ar .
Gall rhai o'r manylion uchod newid
O'r Maes
Yr wythnos a fu
Yr holl straeon, erthyglau am y prif enillwyr a chyfraniadau dyddiol Gwilym Owen.
Holl ganlyniadau, clipiau fideo a blogiau o Brifwyl 2012.
Sain a Fideo
Clipiau archif
Clipiau arbennig o archif 成人论坛 Cymru gan gynnwys cadeirio Robat Powell yn 1985.