Gwybodaeth i bobl anabl
I arbed ansicrwydd ar y dydd, mae trefnwyr yr Eisteddfod yn awgrymu eich bod yn cysylltu 芒 Swyddfa'r Eisteddfod am wybodaeth gyffredinol o flaen llaw ar 0845 4 090 400 .
Cyrraedd yr Eisteddfod
Bydd ceir yn cael eu harwain oddi ar A483 ar gyffordd 3 (Croesfoel) a'u harwain i faes parcio B. Noder gall y trefniadau hyn newid funud olaf felly dilynwch arwyddion yr Eisteddfod.
I brynu tocynnau, mae'r ffenestri yn isel, sydd yn addas i bobl mewn cadeiriau olwyn. Yma hefyd mae system 'loop' er mwyn cynnig cymorth i bobl sydd yn gwisgo teclyn clywed.
Gallwch dderbyn gwybodaeth a chyngor cyffredinol am yr Eisteddfod yn y Ganolfan Groeso, lle gallwch hefyd fenthyg offer cyfieithu yn rhad ac am ddim.
Mae tywyswyr, sydd yn gwisgo crysau t coch, gyda'r geiriau Yma i helpu o gwmpas y Ganolfan. Gallant gynnig gwybodaeth am yr hyn sydd i'w gynnig ar y Maes, mewn sawl iaith.
Mae stiwardiaid y Brifwyl (sydd hefyd ymhob un o adeiladau'r Eisteddfod) yno i gynnig cymorth. Ewch atynt gydag unrhyw broblem ymarferol, a byddent yn barod i'ch helpu, neu yn trefnu i rywun arall eich cynorthwyo.
Toiledau
Ymhob bloc o doiledau, mae un sydd wedi ei addasu ar gyfer pobl anabl, gyda ramp yn arwain atynt. Hefyd, yn y ddau brif floc o doiledau, mae toiled anghenion arbennig. Mae clo ar y toiledau hyn sydd yn gweithio gyda goriad RADAR. Os fyddwch angen defnyddio'r rhain, a heb y goriad pwrpasol, ewch i stondin MENCAP.
Manylion pellach
Am fanylion llawn, gan gynnwys darpariaeth y Pafiliwn a'r Babell L锚n, ewch i .
Os cewch unrhyw drafferthion yn ystod eich ymweliad 芒'r Maes, ewch i Swyddfa'r Eisteddfod, sydd wedi ei leoli tu 么l i'r Pafiliwn, neu
Cysylltu 芒'r Swyddfa'r Eisteddfod
Ffoniwch: 0845 4 090 400
Ebostiwch gwyb@eisteddfod.org.uk
Mwy
Cysylltiadau Rhyngrwyd
O'r Maes
Yr wythnos a fu
Yr holl straeon, erthyglau am y prif enillwyr a chyfraniadau dyddiol Gwilym Owen.
Holl ganlyniadau, clipiau fideo a blogiau o Brifwyl 2012.
Sain a Fideo
Clipiau archif
Clipiau arbennig o archif 成人论坛 Cymru gan gynnwys cadeirio Robat Powell yn 1985.