Y 成人论坛 yn y Steddfod
Bydd canolfan 成人论坛 Cymru ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn gornel fywiog a difyr gydol yr wythnos gyda rhaglenni di-ri yn cael eu darlledu o stiwdios radio a theledu yno.
Bydd canolfan 成人论坛 Cymru ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn gornel fywiog a difyr gydol yr wythnos gyda rhaglenni di-ri yn cael eu darlledu o stiwdios radio a theledu yno.
Eleni bydd y stiwdios yn rhai y bydd modd gweld i mewn iddyn nhw, fel y gall pobol weld eu hoff gyflwynwyr wrth eu gwaith, pobol fel Eleri Sion a Jonsi, Beti George a Hywel Gwynfryn.
Bydd cynnwrf hefyd o gyfeiriad y stiwdio fawr ar yr un safle, gyda bandiau ac unigolion yn difyrru'r dorf gydol yr wythnos, o hanner dydd hyd at 2.30 bob dydd.
Ar y dydd Llun bydd digon o gyfle i sgrechian gwerthfawrogiad wrth i Max N a Dylan Davies ddiddori'r dorf. Ar y dydd Mawrth, Caryl Parri Jones a Huw Chiswell fydd yn perfformio; ddydd Mercher bydd Pheena a Frizbee yn darparu'r adloniant, ar ddydd Iau bydd yr hen law Meic Stevens yn perfformio cyn un o ddoniau newydd Cymru, Daniel Lloyd, ar ddydd Gwener Elin Fflur ac Alun Tan Lan fydd yn diddannu wrthi gyda Bryn Fon a'r Band a Ryland Teifi yn cloi wythnos wych ar y dydd Sadwrn.
Bydd myrdd o ddigwyddiadau eraill yn cael eu cynnal yn nghornel 成人论坛 Cymru o'r maes, a digon i ddal sylw a diddanu.
Ar radio... Mae Radio Cymru yn addo gwasanaeth di-dor ar y tonfeddi, yn llythrennol felly wrth i'r orsaf ddarlledu trwy'r dydd a'r nos yn ystod wythnos y Brifwyl.
Hywel Gwynfryn a Nia Lloyd Jones fydd yn dod 芒 holl ddigwyddiadau'r llwyfan a miri'r maes yn fyw ar y dydd Sadwrn cyntaf,gydag Eleri Si么n wedyn yn ymuno 芒 Hywel weddill yr wythnos yn Eisteddfod Casnewydd gan ddod 芒 chyffro'r seremon茂au a'r cystadlu a bwrlwm y maes hyd y diwedd.
Un o raglenni rheolaidd yr wythnos fydd Tocyn Wythnos lle bydd Beti George yn edrych ar ddigwyddiadau'r dydd, o'r prif seremon茂au i'r digwyddiadau ymylol yng nghwmni llu o gyfranwyr, o feirniaid swyddogol ac answyddogol, buddugwyr a chyfranwyr bywiog a bachog.
Ymysg y llu o leisiau fydd Dylan Iorwerth, Twm Morys, Geraint Lewis, Hywel Teifi, John Meirion Morys a Kevin Roberts.
Bydd C2 hefyd yn pacio'i babell ac yn ei throi hi am gynnwrf y Steddfod, gan ddod 芒 chynnyrch newydd yr wyl, o CDs i gylchgronau a nwyddau, a hefyd holl egni Maes B a phrif berfformiad pob nos.
Huw Stephens a Beca Evans fydd yn cyflwyno Anweledig, Meinir Gwilym, Bryn Fon, a llawer mwy tra bydd Dafydd Du yn cadw trefn o'r stiwdio.
Bydd Radio Cymru hefyd yn dod 芒 chyngherddau'r Brifwyl yn fyw i glydwch eich lolfa gan gynnig gwledd gyfoethog o rai o ddoniau cerddorol y dydd.
Yn Cyngerdd y Gerddorfa o'r Eisteddfod Genedlaethol bydd Beti George ac Alwyn Humphreys yn cyflwyno Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y 成人论坛 gyda'r unawdydd Julian Lloyd Webber ar y soddgrwth yn perfformio gweithiau Hoddinott, Elgar a Dvorak. Bydd y cyngerdd hwn hefyd yn cael ei ddarlledu gan 成人论坛 Cyru ar S4C.
Ar Deledu... Bydd prif gyflwynydd teledu'r Brifwyl, yn dathlu mwy na'r Eisteddfod ar y maes yng Nghasnewydd eleni - sef dathlu 25 mlynedd o ddarlledu o'r Eisteddfod.
"Eleni yng Nghasnewydd, mi fyddai'n cyflwyno'r Eisteddfod ar y teledu am y bumed flwyddyn ar hugain yn olynol, ac yn mwynhau cymaint ag erioed," meddai Huw
Bydd Alwyn Humphreys yn darlledu'n fyw o'r Brifwyl o 10 y bore ar S4C digidol. Cewch gwmni Huw a'i gyd-gyflwynwyr Lisa Gwilym, a Sh芒n Cothi bob prynhawn o ddydd Llun ymlaen am 3.30pm. Gyda'r nos, bydd Huw a Lisa Gwilym yn cyflwyno uchafbwyntiau'r cystadlu, holl glecs y maes a chyfweliadau gyda'r buddugwyr yn fyw o'r stiwdio fawr ar safle 成人论坛 Cymru ar y maes..
Ar y we... Bydd Cymru'r Byd yn yr Eisteddfod am yr wythnos gyfan yn casglu adolygiadau, digwyddiadau, adroddiadau a lluniau di-ri, gan ddarparu darlun llawn o hwyl yr wyl trwy lun a gair ar www.bbc.co.uk/cymru/eisteddfod2004 ac yn Saesneg ar www.bbc.co.uk/eisteddfod2004.Mae'r safle hon hefyd yn cynnig erthyglau a gwybodaeth am holl ddigwyddiadau'r eisteddfod.
|
|
|