| |
Pregeth Oedfa'r Sul
Galwad am i Gristnogion ail-ddarganfod eu radicaliaeth grefyddol a gafwyd yn oedfa grefyddol agoriadol Eisteddfod Casnewydd.
"Rhaid ailddarganfod y radicaliaeth sydd yn Iesu," meddai'r Parchedig Allan Pickard a draddodai'r bregeth ym mhafiliwn yr Eisteddfod fore Sul.
Ond i gychwyn ailadrodd neges pregeth y llynedd a wnaeth Mr Pickard gan ofidio na wrandawyd ar alwad y Parchedig R Alun Evans ym Meifod am heddwch a chymod yn y byd.
"Teimlo o'n i fod galwad Alun Evans yn ei bregeth ym Meifod y llynedd wedi cael ei hanwybyddu a bod angen ei dweud hi eto," meddai.
"Codi baner heddwch wnaeth Alun yn wyneb ffieidd-dra rhyfel Irac ar y pryd, ac nid dim ond Irac ," ychwanegodd gan ofidio fod ffieidd-dra rhyfel yn dal gyda ni "wrth i filoedd rhagor gael eu lladd" dros y 12 mis diwethaf.
"Ar hyn o bryd (mae) 70 o ryfeloedd yn cael eu hymladd ar draws y byd . . . beth mae hynny'n ei ddweud am stad y ddynoliaeth - y teulu yma da ni gyd yn perthyn iddo yn negawd cyntaf y trydydd mileniwm?"
Er bod "yr ychydig" yn gweiddi "Heddwch" nerth esgyrn eu pennau ychydig sy'n gwrando, meddai.
"Galw'n ofer wnaethom ni oedd yn gwrthwynebu rhyfel Irac," meddai.
Serch hynny cymerai gysur o'r ffaith mai "criw bach" a wrandawodd ar neges Iesu Grist ar y cychwyn hefyd ond i'w neges ef o greu perthynas 芒 Duw a pherthynas a chymydog ymestyn ar draws y byd.
Ond gofidiai am gyflwr yr eglwys heddiw mewn oes sy'n cael ei disgrifio fel un ddigrefydd.
"Pobl ddoe a glywodd yr alwad - a beth am bobl heddiw? Pwy sy'n clywed heddiw."
Gan gyfeirio at ddau ddigwyddiad gwleidyddol diweddar dywedodd Allan Pickard i Gristnogaeth gael ergydion mawr yn ddiweddar a bod iddi'n awr ddihuno ac ail-ddarganfod ei "radicaliaeth".
"Mae pobl wrth gefnu ar grefydd gyfundrefnol wedi rhoi cic go dda i ni - maen nhw'n dweud wrtha ni ei bod yn bryd inni ddihuno," meddai gan ddwyn i gof eiriau John Prescott - am 'good kicking' wedi'r etholiadau Ewropeaidd diweddar a geiriau cadeirydd y Blaid Lafur, Ian mcCartney amdanynt fel "wake up call" i'r blaid.
"Os am wneud hynny, dwi'n meddwl bod rhaid ail-ddarganfod y radicaliaeth sydd yn Iesu ac mae Casnewydd cystal lle ag unman i s么n am radicaliaeth - radicaliaeth grefyddol a gwleidyddol a chymdeithasol," meddai gan gyfeirio at gysylltiad Siartwyr y bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r dref.
|
|
|
|