Adolygiad : Noson Stand Yp Maes C
Gaynor Jones bu'n adolygu'r Stand Yp gyda Dewi Rhys, Huw Marshall, Emyr Roberts a Tudur Owen
Nos Sadwrn olaf amdani de a chyfle imi brofi noson stand-yp Cymraeg am y tro cyntaf, er bod y nosweithiau hyn wedi ennill eu plwyf yn yr Eisteddfod ers llawer blwyddyn bellach. Yn anffodus naill ai roedd pawb wedi ymadael am adref eisoes, neu doedd yr arlwy ddim yn apelio, a chynulleidfa feicro ddaeth ynghyd i glwb Whiteheads ger Parc Tredegar. Prin 20 ohonom oedd yno, ond chwarae teg cynhaliwyd y sioe, er taw gwaith anodd yw codi hwyliau mewn gwagle.
Cymerwyd yr awenau gan yr MC profiadol Dewi Rhys. Roeddwn yn disgwyl perfformiad ymosodol gan hwn a dyna a gafwyd. Lambastiwyd pawb, o gast Pobol y Cwm, i Si芒n Lloyd, o gyflwynwyr Planed Plant, i Gofis dre'. Roedd ambell i ergyd yn taro deuddeg ond ar y cyfan jobyn rhwydd yw difr茂o'r gwrthrychau yma. Rydym yn euog o wneud hynny yn feunyddiol a doedd dim byd beiddgar na newydd yma.
Daeth Huw Marshall i'r llwyfan nesaf. Mae'r dyn yma mor ddoniol a chiw traffig hir ddigyffro yn ceisio gadael maes yr Eisteddfod. A dweud y gwir byddai'n well gen i eistedd yn y ciw bondigrybwyll na gorfod eistedd drwy routine arall gan hwn.
Nesa' Emyr Roberts. O'r diwedd dyma rhywun oedd wedi gweithio ar ei gyflwyniad, a dynnodd y bachan yma pawb allan o'i het - Rhodri Morgan, Ieuan Wyn, John Bwlchllan, a Jonsi ymysg eraill. Mae ganddo'r ddawn i ddynwared pob cymeriad i'r dim.
Yn sicr uchafbwynt y noson oedd Tudur Owen, bachan dwi erioed wedi ei weld ar lwyfan o'r blaen. Yn syth mi gysylltodd 芒'r gynulleidfa trwy wneud hwyl am ben ei hun mewn gwahanol sefyllfaoedd. Llwyddodd i symud o un stori sefyllfa i'r llall yn llyfn ac yn slic.
Mae yna lygedyn o obaith felly i stand yp Cymraeg gyda bois fel hwn ac Emyr Roberts yn ein diddanu. Ond ar hyn o bryd mae'r rhagolygon yn go ddu gyda gormodedd o ddigrifwyr sobor o wael yn camu ar lwyfan i borthi eu hegos yn hytrach na'r gynulleidfa.
Gaynor Jones