| |
Gwerthu cerddi dros Batagonia
Yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd bydd arwerthiant o gerddi am y Wladfa gan rai o feirdd mwyaf blaenllaw Cymru yn eu llawysgrifen wreiddiol.
Bydd yr arian yn mynd tuag at ddatblygu rhaglen addysg Gymraeg yn Nhrelew, Patagonia.
Mae cymuned Gymraeg Trelew yn hel arian i brynu adeilad pwrpasol i gartrefu Ysgol Feithrin Gymraeg ac i ddarparu lle i gynnal dosbarthiadau Cymraeg a gweithgareddau eraill.
Mae'r cerddi, gan: Gerallt Lloyd Owen, Dic Jones, Myrddin ap Dafydd, Iwan Llwyd, Twm Morys a Grahame Davies.
Gellir eu gweld ym mhabell Cymdeithas Cymru Ariannin ar vy Maes.
Cesglir cynigion gydol yr wythnos a'r pris uchaf fydd wedi dod i law cyn diwedd yr wythnos fydd yn llwyddo.
Ysgol feithrin Meddai Catrin Morris de Junyent, sy'n wreiddiol o Gymru ond sydd bellach wedi cartrefu yn Nhrelew: "Mae'r ganolfan newydd yma yn hanfodol i barhad a chynnydd y Gymraeg yn Nhrelew. Ar hyn o bryd yr ydym yn cynnal gweithgareddau yn festri Capel Tabernacl Trelew ond mae'r lle yn rhy fach i ateb ein gofynion.
"Mae'r adeilad yr ydym wedi dod o hyd iddo ar werth am US$40,000 sydd bron yn $120,000 peso erbyn hyn, neu tua 拢25,000. Mae'n swm anferth i'w godi ble bynnag ydych chi, does dim dwywaith am hynny, ond y gwir ydy na fedrwn ei godi yma ym Mhatagonia ar ein pen ein hunain."
Ychwanegodd fod yr Ysgol Feithrin yn mynd o nerth i nerth dan arweiniad Shirley James, Judith Jones a Romina Herrera.
'Yr orau' "Credwn mai dyma'r ysgol feithrin orau yn Nhrelew nid yn unig am ei bod yn un cyfrwng Cymraeg ond hefyd o ran ansawdd yr addysg a roddir i'r plant bach.
"Ers ei sefydlu, mae cyfrannu addysg ragorol wedi bod yn un o brif nodau'r ysgol gan ein bod o'r farn mai dyma'r unig ffordd i ennill cydymdeimlad a chefnogaeth rhieni i addysg drwy gyfrwng y Gymraeg.
"Eleni rydym wedi ymestyn y ddarpariaeth i gynnig dwy awr a hanner bob prynhawn o ddydd Llun i ddydd Gwener. Cynigiwn hefyd ddosbarth 么l-feithrin dair gwaith yr wythnos, a dosbarth i bobl ifanc yn eu harddegau. Ein gobaith yw medru cynnig dosbarth bob bore a phob prynhawn y flwyddyn nesaf. Bydd wedyn yn ysgol drwy'r dydd a byddai pwysigrwydd symbolaidd iawn i hynny.""
Dywedodd y byddai darpariaeth o'r fath yn sail i ddatblygu addysg gynradd Gymraeg yn Nhrelew, sy'n cydfynd ag argymhellion gan yr Athro Robert Owen Jones i'r Cynulliad Cenedlaethol yn Rhagfyr 2003.
"Ers 1997 mae'r Cynllun Dysgu Cymraeg ym Mhatagonia wedi bod yn darparu arian i anfon athrawon o Gymru i Ddyffryn Camwy a'r Andes. Mae'r cynllun hwnnw yn dod i ben ymhen dwy flynedd a byddai prynu'r ganolfan yma yn sicrhau dyfodol mwy cynaladwy i addysg Gymraeg yn Nhrelew yn y tymor hir," meddai.
Cefnogir y cynlluniau gan Gymdeithas Gymraeg Trelew a Chymdeithas Dewi Sant.
Gellir gwneud cyfraniad yn uniongyrchol at: 'Canolfan Trelew', Banc y Nat West, Sgwar Uxbridge, Porthaethwy, Ynys M么n, LL59 5AR, gan wneud sieciau yn daladwy i 'Canolfan Trelew'.
|
|
|
|