| |
Cadair i fardd 'diog'
Bardd diog, meddai, a enillodd gadair Casnewydd eleni.
Dywedodd Huw Meirion Edwards, 39 oed, mai un rheswm nad ymgeisiodd am gadair y Genedlaethol, ers ei ymgais gyntaf yn Eisteddfod Bro Colwyn 1995, oedd "diogi".
Ond go brin hynny gan iddo wneud cryn gyfraniad yn y maes academaidd yn y cyfnod hwn gan gyhoeddi nifer o lyfrau ac erthyglau ac mae ar hyn o bryd yn paratoi golygiad newydd o gerddi Dafydd ap Gwilym a'i gyfoeswyr.
Dywedodd nad "ar chwarae bach" y mae mynd ati i gyhoeddi cywydd ar gyfer cystadleuaeth y gadair ond iddo gael ei sbarduno i gystadlu gan y gerdd a enillodd y Gadair i Twm Morys y llynedd.
Ond pwysleisiodd mai sbardun oedd hynny yn hytrach na dylanwad.
"Yr oedd y gerdd honno yn wahanol, yn egniol ac yn ffres ac mi es i ati ganol Awst ac ail afael yn fy ngherdd wedyn yn Ionawr ar gyfer y gystadleuaeth hon. Ond nid dylanwad oedd ei gerdd ef ond symbyliad," meddai.
Yn ychwanegol at hynny yr oedd y testun yng Nghasnewydd yn un gyda digon o bosibiliadau, meddai.
|
|
|
|