| |
Nodiadau: dydd Llun
Nodiadau dyddiol o faes yr Eisteddfod. Dydd Llun - diwrnod het newydd!
Yn ogystal ag am ei farddoniaeth mae Twm Morys yn adnabyddus am ei hetiau trawiadol hefyd.
Ond bydd yn rhaid iddo fynd yn bell iawn cyn dod o hyd i het gystal 芒'r un mae'n ei gwisgo yng Nghasnewydd ddechrau'r wythnos hon.
Ac fe aeth o'n bell i gael hon hefyd.
"Ym Mecsico," meddai pan y'i holwyd lle'i cafodd.
"Mi brynais i ddwy ac mae'n nhw'n gwasgu'n fach, fach, ar gyfer eu cadw."
Dim angen bod ofn yr hetiau yna felly.
Swn mawr - ty bach "Ty bach y merched oedd hwnna," oedd yr eglurhad a gawsom am s诺n rhyfeddol sy'n tarfu bob hyn a hyn ar weithgareddau Ystafell y Wasg yng nghefn y Pafiliwn.
Mae'n swn digon difyr i'w ddadansoddi. Yn destun sgwrs a rhyfeddod.
Yn gyfuniad o swn cyfogi, ffrwydrad gwynt deheuol, tuchan ymgarthiol a gwewyr esgor.
Ond dydi'r swn ddim yn adlewyrchiad o gwbl ar foesau'r menywod sy'n defnyddio'r lle.
Eglurwyd inni mai "Toiled Gwyrdd" yw hwn yn sugno carthion yn hytrach na'u golchi gyda dwr i'r ffosydd cyhoeddus.
Dyfais felly sy'n halogi'r amgylchedd gyda swn wrth ei harbed trwy gynilo ar ddwr.
Problem iaith Yn y maes parcio mae'r "iaith" yn bwnc trafod rhwng dau steward sy'n gwagswmera wedi prysurdeb y dydd.
"I didn't realise that Welsh was so widely spoken," meddai hi.
Gan ymateb wedyn i rhyw sylw gan ei chydymaith gyda'r geiriau: "Yeah - but the fact that I speak Welsh doesn't mean I understand it."
Pwnc trafod i addysgwyr yng nghlydwch Pabell y Cymdeithasau fan yna.
Pabell ar goll Ie, Pabell y Cymdeithasau.
A dyna ichi un o ddirgelion Casnewydd. Lle mae hi?
Er craffu ar fap o'r maes, ei droi o ben i waered, edrych arno o'r ochr, chwilio'r mynegai ar ei gefn does yna ddim s么n am un o hoff babelli'r Wyl lle mae'r gwynt y trafod bob amser yn boethach na hyd yn oed cynhesrwydd croeso.
Erbyn nos Sul roedd rhai yn ofni iddi gael ei dileu.
Ond na'n wir, o holi un o dywyswyr y Maes cafwyd ar ddeall mai ystafell yn Nhy Tredegar yw'r babell eleni - ac mae hwnnw y peth hawsaf un i ddod o hyd iddo ar y Maes!
Lleoli Mewn trafodaeth gyda stondinwr heddiw ynglyn 芒 ble di'r lle gorau i gael pabell ar faes Steddfod.
Y farn gyffredinol oedd ei body n fanteisiol bod gyferbyn ag un o'r lleoedd bwyta neu'n agos i doiledau gan fod pawb yn mynd i fynychu'r lleoedd hynny rywdro yn ystod y dydd!
|
|
|
|