| |
Nodiadau: dydd Mercher
Nodiadau dyddiol o Faes Prifwyl Casnewydd
Y ffraeo'n parhau
Dyw hi ddim yn edrych fel pe byddai'r cymylau yn debyg o godi oddi ar yr ymrafael rhwng yr Archdderwydd a gweddill yr Eisteddfod.
Cychwyn pethau oedd yr Archdderwydd yn dyfynnu geiriau Saunders Lewis am foch a gwinllan yng nghyswllt Cyngor yr Eisteddfod.
Y cam nesaf oedd Llywydd y Llys ac aelod o'r Cyngor, R Alun Evans, yn ceryddu Mr Lewis a galw am ymddiheuriad ganddo am ei alw o a'i debyg yn foch.
Yr Archdderwydd wedyn yn taro'n 么l gan ddweud iddo gael ei frifo gan ymateb penaethiaid Steddfodol i'w sylwadau.
"Bu un neu ddau ohonyn nhw yn arbennig o ffiaidd eu beirniadaeth," meddai heb enwi neb gan ychwanegu i un fod 芒'r wyneb i ofyn am ymddiheuriad cyhoeddus yng nghyfarfod yr Orsedd ddydd Gwener.
"Ond does gen i ddim i ymddiheuro amdano," meddai.
Yn wir, mae o wedi gwadu mai at Gyngor yr Eisteddfod yr oedd yn s么n wrth ddefnyddio'r gair "moch" yn y dyfyniad o waith Saunders Lewis.
"Os yw aelodau'r Cyngor yn teimlo mai atyn nhw yr oeddwn yn cyfeirio maen nhw'n groendenau iawn gan orfodi rhywun i feddwl a oes ganddyn nhw rywbeth i'w guddio," meddai gan ychwanegu ei bod yn sefyllfa ryfedd iawn pan yw'r Archdderwydd yn cael ei feirniadu am ddyfynnu Saunders Lewis o bawb.
Un o ganlyniadau hyn oll yw bod mwy o edrych ymlaen nac arfer at gyfarfod nesaf yr Orsedd ddydd Gwener - diwrnod olaf Robyn Lewis fel Archdderwydd a'i gyfle olaf i daro n- neu dalu'n 么l.Fflagio Gallai fod yn waith difyr, os nad buddiol, i rywun: cyfrif faint o faneri banc yr HSBC sy'n cwhwfan ar y Maes.
Mae'n ymddangos fod baneri'r banc hwn yn fwy niferus na rhai neb arall ar y Maes.
Ac maen nhw wedi codi'r cwestiwn - beth a ddigwyddodd i faner yr Eisteddfod.
Mae rhai yn cofio, yn 么l yn y dyddiau pell pan oedd arian yn y coffrau, yr Eisteddfod yn talu rhai miloedd ar bunnau i rhyw gwmni am ddyfeisio baner gyda'r llythyren E ( am Eisteddfod) arni i'w chwhwfan uwchben y pafiliwn.
Ond welwyd mohoni ers rhai blynyddoedd bellach.
Myni wel sbent a defnyddio idiom farddol ac arian y byddai'r steddfod yn falch iawn o'i gael heddiw.
Hanfod pob papur newydd yn 么l ambell un ydi croesair da.
A'r hyn maen nhw'n i feddwl wrth groesair "da" ydi un sydd ddim yn rhy hawdd i'w wneud.
Yn 么l hynny mae croesair y sampl o bapur newydd dyddiol Y Byd sy'n cael ei rannu am ddim ar y Maes yn un o'r croeseiriau gorau a welwyd erioed yn y Gymraeg gan beri i groeseirwyr brwd dynnu gwallt eu pennau mewn rhwystredigaeth.
Hynny, nid yn gymaint am fod y cliwiau yn astrus a chlyfar ond oherwydd bod yna gliwiau ar gyfer sgwariau nad ydynt yn bod a sgwariau heb gliwiau nad ydynt yn bod - neu rhyw ddryswch croeseiriol tebyg.
Fel y dwedodd un croeseiriwr: "Hyd yn oed os bydd Y Byd yn dod allan yn ddyddiol mi gymrith wythnos i wneud y croesair a fydd raid iddyn nhw byth dalu gwobr gan ei bod yn amhosib ei orffen beth bynnag!"
Newid cystadleuaeth Un o gystadlaethau rheolaidd yr Eisteddfod Genedlaethol yw un "Tlws Sefydliad y Merched".
Ond heddiw clywyd rhywun yn awgrymu tybed na fyddai cystadleuaeth Sefydliad y Merched Tlws yn fwy diddorol!
|
|
|
|