| |
Nodiadau: Sadwrn - Sul
Dan y deri rhag y gwres A hwythau rywle rhwng Tyddewi a Meifod roedd ffigurau diwrnod cyntaf Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd o 16,000 yn llawer mwy calonogol nag yr oedd neb wedi'i ddarogan.
A chyda heulwen haf toesi'r maes yr oedd arwyddion prysurdeb yn gynnar ar Barc Tredegar fore Sul hefyd ac erbyn diwedd dydd yr oedd 14,000 wedi ymweld - gwelliant sylweddol ar yr 11,000 yn Nhyddewi a Meifod.
Plant Cymraeg Gan adlewyrchu natur yr ardal yr oedd cyfran o'r ymwelwyr yn Gymry di-Gymraeg lleol; yno i hebrwng eu plant Cymraeg a gymerai ran mewn gwahanol weithgareddau.
"Can I look at my Hwiangerddi book when we get to the car?" holai un ferch fach ei rhieni wrth gerdded at y meysydd parcio nos Sadwrn.
Colli blodau Yn y pafiliwn mawr ei hun gall cystadleuwyr sy'n dioddef o aflwydd y paill chwarae eu rhan yn ddibryder gan fod hon yr Eisteddfod gyntaf heb ardd o flodau o flaen y llwyfan.
Eglurodd Elfed Roberts, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod, mai'r rheswm am hynny yw i "set" y llwyfan gael ei newid eleni er mwyn i'r gynulleidfa weld yn well beth sy'n digwydd yno.
Un o ganlyniadau hynny, fodd bynnag, fu gorfod chwynnu'r blodau a fu'n harddu blaen y llwyfan dros y blynyddoedd.
Symud cymanfa Rhywbeth arall sy'n debyg o ddiflannu maes o law ydi'r Gymanfa Ganu draddodiadol ar ail nos Sul yr Eisteddfod.
Wel, nid yn gymaint ddiflannu ond symud - i'r nos Sul gyntaf fel y bydd yr Eisteddfod yn cyrraedd uchafbwynt y cloi ar ei hail nos Sadwrn ac eisteddfodwyr yn gallu cychwyn am adref ddydd Sul.
Agoriadol Does yna ddim bwriad, fodd bynnag, i roi'r farwol i'r cyngerdd a'r seremoni agoriadol ar nos Wener yn 么l is gadeirydd Cyngor yr Eisteddfod, Dafydd Whittall, er mai ond mymryn dros fil a'i mynychodd eleni.
Y rheswm am hyn yw fod yr Eisteddfod yn awyddus i gael y gweithgareddau agoriadol o'r neilltu a bwrw iddi'n syth gyda'r cystadlu fore Sadwrn cyntaf yr Wyl.
Stiwardio amyneddgar Efallai ei bod yn rhy gynnar i ganu clodydd yn rhy uchel mor gynnar yn yr wythnos ond yr argraff mae rhywun yn ei gael yw fod y drafnidiaeth eisteddfodol yn llifo'n eithriadol o hwylus - er mai bore a nos Lun fydd y prawf go iawn cyntaf.
Yn y meysydd parcio eu hunain canmolodd mwy nag un hynawsedd y stiwardiaid.
Mae eu hir amynedd a'u dawn i frathu tafod hefyd yn destun edmygedd wrth iddyn nhw drafod yr unigolion hunanol hynny sy'n teimlo eu bod nhw yn haeddu lle gwell, a n锚s, na phawb arall i barcio gan greu ciwiau wrth ddadlau'u hachos gyda stiward.
Fel yr awgrymodd Hywel Gwynfryn mae angen arwydd clir yn gorchymyn gyrwyr i barcio'n syth ac yn ddiddadl lle maen nhw'n cael eu rhoi.
"Lle i barcio ydi maes parcio," meddai, "ewch i'r Maes i siarad!"
Yng nghysgod p卯n Llygedyn o haul ac mae'r proffwydi tywydd amatur yn darogan Meifod arall o ran haul a gwres yng Nghasnewydd.
Ond beth bynnag y gwres bydd Parc Tredegar yn brafiach lle na Maes Mathrafal y llynedd - oherwydd bod yno goed i gysgodi oddi tanynt rhag yr haul.
Yn barod mae pobl wedi bod yn bachu seddau am sgwrs dan gysgod y deri a'r p卯n lle mae'r awel yn feinach a'r tymheredd yn ffeinach.
Hen, hen gynneddf fel y dynfa honno at lannau dyfroedd.
|
|
|
|