| |
Dyddiadur: bore Sul
Dyddiadur dyddiol olaf Lowri Johnston am yr wythnos o Faes B a gigs y Steddfod.
Diwrnod olaf yr Eisteddfod! Dwi methu credu pa mor gyflym mae'r wythnos wedi hedfan a chyn lleied o amser sydd ar 么l cyn dychwelyd i realiti!
Dwi ddim yn gorfod gweithio heddiw, felly dwi'n cysgu ychydig yn hwyr, ond gan ei bod yn danbaid yn y babell ni allaf aros ynddi'n rhy hir.
Cawod griced Dwi'n osgoi'r ciw am gawod ar y Maes Ieuenctid ac yn cerdded draw i'r Clwb Criced gerllaw, lle mae'n bosib cael cawod am ddim - chware teg i bobl y Clwb!
Teimlo llawer yn well ar 么l cael cawod ac yn y prynhawn rydyn ni'n teithio draw i Glwb Pont Ebwy i far Abri er mwyn ymlacio yn yr haul gyda pheint o seidr oer wrth wrando ar Aun Tan Lan yn gwneud set acwstig - hyfryd!
Rydyn ni'n aros yno nes i gig y noson ddechrau drws nesaf yn y Clwb.
Mae'r tocynnau wedi'u gwerthu i gyd ac mae'n noson wych, ond dwi wedi blino cymaint erbyn y diwedd, ac mae'n berwi yn y gig gan fod y lle yn orlawn o bobl feddw a chwyslyd yn dawnsio'n wyllt! Joio!
Doniolwch Allan i aros am fws y Tafod felly, sy'n rhedeg rhwng y Maes Ieuenctid a gigs y Gymdeithas, ond rydyn ni'n penderfynu mynd i n么l bwyd Tsieiniaidd tra'n aros, mewn lle o'r enw'r Wui Wui - enw sy'n ein diddanu am oriau (oce, falle i'r alcohol ei wneud yn ddoniolach!).
Ond, wrth adael y Wui Wui gyda ein Wui Wui Special (!), rydyn ni'n cymryd y tro anghywir ac yn mynd ar goll mewn st芒d o dai yng Nghasnewydd. Am ffordd i orffen Steddfod!
Chwarae teg, cawsom gymorth gan y bobl leol a ddangosodd y ffordd gywir inni. Dal tacsi yn 么l wedyn, wrth inni golli'r bws olaf yn 么l i'r Maes Ieuenctid, ac yn syth i'r Gorlan am gwpanaid o de!
Mae'r lle'n llawn - mae cymaint mwy o bobl yma nawr nag oedd ar ddechrau'r wythnos.
Gan ei bod hi'n noson olaf - pa ffordd well i orffen na mynd i eistedd o gwmpas y goelcerth?! Fel pob noson arall ynte!
Dydy hi ddim yn arbennig o brysur o gwmpas y t芒n a dweud y gwir a dwi'n ei chael hi'n anodd iawn i gadw fy llygaid ar agor, ond dwi'n goroesi tan tua pump y bore ac yna mae'r gwely'n galw - am y tro olaf am flwyddyn arall!
Llwyddiant mawr Mae wedi bod yn Eisteddfod wych - er yn wahanol i'r rhai blaenorol, gyda diffyg Maes-B ar y Maes Ieuenctid.
Dwi ddim yn meddwl i hynny wneud cymaint o wahaniaeth 芒 hynny a dweud y gwir gan i'r gigs i gyd fod yn llwyddiant mawr.
Teimlaf, er hynny, i bobl fod yn fwy tueddol o aros ar y Maes Ieuenctid am y noson yn lle mynd i gigs, gan eu bod yn bell.
Roedd hyn yn sicr yn wir ar ddechrau'r wythnos - efallai ddim cymaint erbyn y diwedd.
Byrgyrs neisia yn y byd Rhaid diolch i bawb am wneud yr Eisteddfod yn gymaint o lwyddiant - yn enwedig y Gorlan am y te, y pot nwdls a'r byrgyrs neisa' yn y byd!
Bu cymaint o uchelbwyntiau yn ystod yr wythnos fel na allai'u rhestru nhw i gyd! Hwyl am flwyddyn arall... Fe'th welaf chi oll yn y Faenol flwyddyn nesaf!
|
|
|
|