Dyddiadur: fore Gwener
Dyddiadur dyddiol Lowri Johnston o Faes B a gigs y Steddfod
Ar 么l treulio'r noson yng Nghaerdydd nos Fercher, dwi'n teimlo llawer yn well dydd Iau. Mae'n syndod cymaint o wahaniaeth mae noson dda o gwsg yn gwneud i rywun! Felly dwi'n ceisio ffeindio fy ffordd yn 么l o Gaerdydd - dwi'n cas谩u dreifio mewn dinasoedd ac ar y draffordd - felly dwi ddim yn mwynhau'r siwrnau o gwbl. Yn syth i faes yr Eisteddfod ar 么l dychwelyd, gweithio tan dri unwaith eto ac yna draw i weld gem b锚l droed rhwng Cymdeithas yr Iaith a bandiau y S卯n Roc Gymraeg, ac mae'n g锚m ddiddorol a dweud y lleiaf.
Dwi ddim yn gwybod llawer am b锚l droed, dwi ddim am esgus mod i, ond dwi'n gwybod digon i wybod bod Cymdeithas yr Iaith wedi ennill o saith g么l i bump! Llongyfarchiadau iddynt...
Am dro o gwmpas maes yr Eisteddfod wedyn. Mae llawer o stondinau diddorol ar y maes, ond dwi'n teimlo bydd angen wythnos gyfan arall arna i er mwyn cael cyfle i'w gweld nhw gyd!
Profi gwaed
Dwi'n cas谩u gwaed, ac yn cas谩u nodwyddau gyda chas perffaith. Er hynny, dwi'n cael fy mherswadio i gael fy ngwaed wedi profi i weld pa gr诺p gwaed sydd gen i. Mae'r nodwydd yn fach iawn iawn (iawn) - a dweud y gwir, dwi ddim yn si诺r os dwi'n cael ei alw yn nodwydd gan ei fod mor fach, ond dwi am wneud er mwyn fy ngwneud i deimlo'n well mod i wedi bod yn ferch ddewr!
Felly, dyna fi, yn eistedd ar y gadair gyda fy mys bawd yn barod i gael ei bigo a nghalon yn curo ffwl pelt. Cau fy llygaid yn dyn, ac yn gwedd茂o i Dduw na fydd y dyn yn dwyn fy ngwaed i gyd. Un pigad bach, ac mae popeth drosodd. Agor fy llygaid a dwi dal yma, mae fy mawd dal yn sownd i'm llaw, ac yn bwysicach fyth, dwi'n cymryd bod gen i waed ar 么l! Y cam nesaf fydd rhoi gwaed...
Mae'n debyg mai O negatif yw fy ngr诺p gwaed, a dwi'n cael daliwr allweddu bach del i ddangos i'r byd. Ar 么l yr holl ddewrder, dwi'n teimlo mod i'n haeddu sglodion, felly draw i n么l bwyd. Dwi bron 芒 chael harten pan mae'r dyn wrth y cownter yn gofyn am 拢4 am sglodion a 3 darn o chicken nuggets (dylanwad fy ffrind sy'n Gardi) a dyna fy arian am y dydd wedi mynd!
Mynd i bwdu yn y babell roc am ychydig, ac yn gweld Meic Stephens yn chwarae set wych. Mae e'n llawn hwyl, er ei bod yn danbaid yn y babell, ond mae'n werth berwi yno i glywed 'Ysbryd Solfa'.
Yn 么l i'r babell wedyn, a gorwedd yn yr haul am ychydig o oriau gan drafod pa gig i fynd i weld heno. Cymdeithas yr Iaith sy'n mynd 芒 hi yn y diwedd, er bod y gig yn TJ's yn ein denu gan fod Drumbago, Mwsog, Cate Timothy a'r Poppies yn chwarae yno. Ond, y peints rhad a Pep Le Pew, Lo-Cut a Sleifar a Jakakoyak sy'n mynd 芒 hi, felly draw i Glwb Pont Ebwy.
Noson wych, ac o fewn dim mae'n amser dychwelyd i'r maes pebyll, ac ar 么l tipyn o drafferth i ddod o hyd i'r babell (dim fy mai i - gormod o bebyll newydd wedi cyrraedd yn ystod y dydd), rydyn ni'n mynd draw at y goelcerth gan aros yno tan oriau m芒n y bore, ac mae'n dechrau goleuo wrth i ni gropian draw at y babell.
Diwrnod diddorol iawn, dwi methu credu pa mor gyflym mae'r wythnos yn hedfan, gyda dim ond dwy noson ar 么l!