| |
'Y Byd - safon nid ffrwcs'
Anogaeth i fynd allan i genhadu ac i efengylu dros Y Byd a gafwyd gan Huw Edwards ddydd Iau.
Anogaeth hefyd i fuddsoddi yn y papur newydd dyddiol Cymraeg sydd ar y gorwel. "Ac os na allwch chi fforddio buddsoddi i danysgrifio o leiaf."
Yn annerch cynulleidfa yn y Babell L锚n dywedodd Mr Edwards fod yn rhaid i'r "cyfle mawr olaf hwn i sefydlu papur dyddiol Cymraeg" lwyddo a galwodd ar y gynulleidfa i anwybyddu y rhai hynny sy'n codi pob math o ofnau a darogan pob math o anawsterau yngl欧n 芒'r fenter.
"Mae yna unigolion yng Nghymru - wnai mo'u henwi nhw - sydd bob amser yn barod i ladd ar brosiectau fel hyn - ond rhaid eu hanwybyddu," meddai.
Galwodd hefyd am sicrhau y bydd Y Byd, pan y'i cyhoeddir yn bapur "safonol.
"Rhaid iddo fod yn bapur y bydd pawb yn cydnabod ei fod yn safonol - nid yn ffrwcs," meddai.
Yn safonol, ychwanegodd, o ran ei iaith ac o ran ei newyddiaduraeth.
"Dylai'r papur hwn fod yn anelu at y safon uchaf a gwneud hynny yn gwbl falch ac yn agored," meddai.
Ond pwysleisiodd nad yw bod yn safonol yn golygu na fyddai'n apelio at "bob math o bobl".
Gwadodd Mr Edwards hefyd na fyddai Y Byd yn "disodli" cyhoeddiadau Cymraeg eraill fel mae rhai yn ofni.
Yn hytrach, bydd yn creu marchnad newydd iddo'i hun.
Anfonodd y gynulleidfa o'r Babell L锚n gyda'r anogaeth i fod yn "gyfeillion" i'r Byd "ac os yn gallu fforddio hynny, yn fuddsoddwyr."
Pwysleisiodd hefyd bwysigrwydd s么n wrth eraill am y fenter ac "efengylu" drosto a "thaenu'r neges" amdano.
"Mae'n allweddol bod y cyfle mawr olaf hwn i sefydlu y papur dyddiol Cymraeg yn llwyddo a dyna pam ei bod yn bwysig fod y genedl yn cefnogi y fenter hon," meddai.
"Mae angen inni efengylu yn ein ffordd ein hunain o safbwynt Y Byd a pheidio 芒 gwrando ar y sawl sydd yn gweld problemau," meddai.
|
|
|
|