| |
Cas-newydd: Gwilym dydd Gwener
Mae Gwilym Owen yn darlledu bob bore ar y Post Cyntaf o Gasnewydd
Bore Gwener - a'r bore cyntaf i mi allu cyrraedd yma heb fynd ar goll rhwng Y Fenni a'r Maes. Ond allai ddim beio'r Sanhedrin am hynny!
Ac mae hi wedi body yn werth cyrraedd yma bob dydd i gael croeso gan y tywyswyr llon yn eu crysau cochion.
Criw gwerth chweil o bobl ifainc croesawgar a pharod eu cymwynas. Ar brawf a dalodd ar ei ganfed yw hwn.
Llwyddiant y ddiod Ac rwy'n meddwl hefyd fod arbrawf dod ag alcohol ar y Maes wedi llwyddo er gwaetha'r codwyr bwganod.
Dydw id dim wedi gweld neb yn feddw ar y Maes hyd yma.
Ond mi rydwi wedi gweld rhai o'n harweinwyr eisteddfodol yn bihafio fel tasan nhw wedi bod ar y pop. Yn codi eu lleisiau, yn pwyntio eu bysedd ac, ar un achlysur, yn cau dwrn wrth anghytuno 芒'i gilydd.
Plentynnaidd ac anghwrtais a dweud y lleiaf ac mi fyddwn i'n awgrymu iddyn nhw i gyd dreulio awry n y Babell Heddwch ar y maes efo'i gilydd heddiw i ddod at eu coed. Neu hyd yn oed stondin UCAC lle mae rhywun yn barod i dylino pennau pobl dan straeon.
Ennill a cholli Llongyfarchiadau rwan i Emyr Williams, gohebydd eisteddfodol y Daily Post gan y bydd, erbyn amser cinio heddiw, yn dderwydd er anrhydedd yng Ngorsedd y Beirdd.
A bu bron iddo 芒 chael sg诺p i ddathlu'r achlysur trwy gyhoeddi ddechrau'r wythnos mai Meri Huws fyddai Cadeirydd newydd Bwrdd yr Iaith - ond daria, roedd Golwg wedi dweud yr un peth rai wythnosau'n 么l.
Tua'r goelcerth A llongyfarchiadau i Ms Huws, hefyd. Dyma ail gyn gadeirydd Cymdeithas yr Iaith i esgyn i swydd sy'n talu 拢31,000 y flwyddyn am ddau ddiwrnod yr wythnos o waith.
Arian, efallai, a gaiff ei drosglwyddo i goffrau gwag y Steddfod unwaith y caiff Ms Huws a chyd-gwangocrats eu taflu ar goelcerth Rhodri Morgan.
Colledion Ac yn wir, wythnos o golledion ydi hon wedi bod i'r Archdderwydd, Robyn Ll欧n.
Mae o ar fin colli'i swydd, collodd ei limpyn gyda'r Sanhedrin Eisteddfodol a chollodd eu cydymdeimlad wrth gyfeirio at foch yn sathru'r winllan.
Ond, yn bwysicach na dim, fe gollodd un o'i gyfflincs gwerthfawr o aur Tregaron ac ar ffurf draig.
Felly, ddraig fach, tyrd yn么l i liniaru hiraeth Mr Ll欧n fel y galwyd o yn y Daily Post yn ystod yr wythnos.
Aros yn y cof: A beth fydd yn aros yn y c么f wrth deithio'n 么l i'r gogledd yn nes ymlaen heddiw.
Y ddau ymgeisydd am swydd yr Archdderwydd yn cerdded ochr yn ochr yng ngorymdaith yr Orsedd.
Sgwn i sut y bydd hi amser cinio heddiw pan gyhoeddir y canlyniad?
Cofio hefyd am basio y stondin leiaf ar y Maes - y stondin Materion Cymreig - a chanfod llywydd ein Cynulliad Cenedlaethol yn eistedd yn yr haul yn trefnu'r dyfodol, mae'n siwr.
A gwrando ar Rhodri ein Prifweinidog hoff yn doethinebu am lys Ifor Hael.
A meddwl; diawcs, roedd yn well gen i Rhodri y jocar a'i hwyaden ungoes na'r athronydd o hanesydd ar Faes Casnewydd.
A dyna'r lle i minnau dewi fallae.
O Barc Tredegar, ffarwel.
|
|
|
|