| |
Cas-newydd: Gwilym dydd Iau
Mae Gwilym Owen yn darlledu ar y Post Cyntaf bore o faes Prifwyl Casnewydd:
Llifeiriant Rod. . . Casgliad o friwsion bach ysgafn, pryfoclyd, y bu imi eu blasu ar y maes yma sydd gen i heddiw.
Fel canfod y gwleidydd lliwgar hwnnw, Rod Richards, sydd yma'n gweithio yn 么l y s么n fel sylwebydd cyfryngol.
Mae o wedi penderfynu mynd o gwmpas y lle yn cario llif gadwyn - chainsaw i chi a fi.
Ond llif heb beiriant na dim arall ydi hon. Yn wir, mae hi mor aneffeithiol a gwleidydd diblaid a diswydd.
Ond mae'n gimic sy'n tynnu sylw.
Rhydd fynediad Un arall sydd wedi tynnu sylw ato'i hun yr wythnos hon ydi Robin Llywelyn. Mae o wedi ennill gwobr goffa Daniel Owen am nofel a gobeithio y medra io ddarllen hon.
Mae o hefyd wedi bod yn llymeitian ar y maes yn ei wisg orseddol a rŵan mae o wedi argymell y dylai'r Cynulliad roi digon o arian i'r Steddfod fel gall pawb ddod i mewn heb dalu.
Ysgwn i a fydd o'n gweithredu'r un athroniaeth tua Phorthmeirion.
Doethinebu? Golygfa drista'r Steddfod hyd yma, i mi, oedd dod ar draws stondin fach yn arddangos pum math o dylluanod .
Dyna lle'r oedd y pumawd yn syllu'n freuddwydiol ar y cannoedd o'u cwmpas a rhyw olwg drist arnyn nhw fel petaen nhw'n gofyn iddyn nhw'u hunain; Ysgwn i ddaw Hogia'r Wyddfa heibio i'n gweld ni. Tw whit Tw hw.
Cwm-gymeriad A dyna ichi'r hen 成人论坛 wedyn yn trefnu sesiynau trafod i ddathlu pen-blwydd Pobol y Cwm yn 30 oed.
Rhoi cyhoeddusrwydd cadarnhaol i'r hen gyfres annwyl mae'n debyg oedd y nod.
Och a gwae, be ddigwyddodd? Huw Ceredig yr actor a Meic Povey yr awdur yn rhoi swadan galed i'r criw presennol ac yn awgrymu eu bod nhw wedi colli'r plot. Biti garw.
Hap a damwain A biti hefyd na fuasai trefnwyr Hapnod, loteri fawr newydd yr Eisteddfod wedi gallu cyhoeddi dogfen ymuno 芒'r fenter mewn Cymraeg cywir.
Gyda chymaint o bryder am y rheol Gymraeg y dwthwn hwn mae'n drueni fod cynifer o frychau ar y ffurflen liwgar.
Wele'r dydd Gweld hefyd fod Hafina Clwyd yn y Western Mail wedi penderfynu mai Y Dydd ac nid Y Byd fydd teitl y papur dyddiol Cymraeg newydd.
Ac roeddwn i wrth fy modd gweld y camgymeriad.
Y Dydd, wedi'r cyfan, oedd unig raglen newyddion Gymraeg go iawn sy wedi bod ar y teledu yng Nghymru erioed.
Ac er y dylwn i ddatgan diddordeb personol mae colled fawr ar ei h么l hi a dwi'n siŵr mai teimlo'r golled honno yr oedd Hafina wrth fynd ati i sgriblo. Go dda chi.
Bydded goleuni Ac i orffen, un sylw bach personol arall. Yn y cyfarfod arbennig o Lys yr Eisteddfod yn y Babell L锚n nos Fawrth rhyfedd oedd nodi fod yna ddigonedd o oleuni ar y swyddogion ar y llwyfan ond bod y gynulleidfa druan yn eistedd yn y tywyllwch.
Wn i ddim a oedd hynny yn drefniant arwyddocaol ai peidio.
Gobeithio nad felly y bydd hi yn y cyfarfod blynyddol y bore ma.
Yn wyneb haul llygad goleuni mae piau hi bawb.
|
|
|
|