| |
Cas-newydd - Gwilym dydd Mawrth
Mae Gwilym Owen yn y Steddfod ac yn darlledu ar y Post Cyntaf bob dydd.
Y babell goll Ac mi ddechreua i heddiw efo dipyn o ddirgelwch sy wedi bod yn gur pen i rai eisteddfodwyr.
A hynny ydi, sut i ddod o hyd i Babell y Cymdeithasau.
A hynny oherwydd nad pabell mohoni leni a dydi hi ddim ar y Maes ychwaith.
Mae hi ar lawr uchaf un o hen adeiladau Ty Tredegar ei hun ac mae'n rhaid ichi fod yn dipyn o giamstar i ddod o hyd iddi.
A wyddoch chi beth oedd yr hen adeilad yn ei ddydd? Coeliwch neu beidio, bragdy.
Ydi, mae trefnwyr Prifwyl Casnewydd yn mynnu cael blas yr hen alcohol nay m mhob man eleni.
Carthion gwyl Ac er gwaetha'r holl s么n am gynni ariannol y Steddfod mae'n werth galw heibio i'r toiledau newydd sbon sy wedi eu codi ar gyfer y Sanhedrin yn y Pafiliwn.
Cyfleuster sy'n hynod o foethus ac yn reit handi ar gyfer hacs y wasg hefyd.
Ond mae na un embaras bach, mae na hen synau aflafar ych a fi yn eich byddaru chi bob tro mae'r merched yn tynnu'r tsiaen fel petai.
Sgwn i pam?
Hirddydd haf Gall heddiw fod yn ddiwrnod maith i ni aelodau Llys yr Eisteddfod oherwydd os oes gennym ni gwestiynau i'w gofyn am y cynlluniau ar gyfer y dyfodol yna mae'n rhaid iddyn nhw aros ar y Maes tan ar 么l chwech.
Bryd hynny, yn y Babell L锚n, y mae'r Sanhedrin yn barod i ymateb.
Tybed ydi hi'n haws trafod y problemau mawr sy'n wynebu'r Steddfod gyda'r nos? A minnau wedi credu 'rioed mai gweithredu yn wyneb haul llygad goleuni ydi'r traddodiad!
Her adroddiad Ac yn yr ysbryd hwnnw rydw i am ofyn cwestiwn bach digon pigog rwan.
Ar waelod y rhaglen ar gyfer Cyfarfod Blynyddol y Llys sydd i'w gynnal fore Iau mae yna nodyn yn cyhoeddi y bydd Adroddiad Blynyddol 2003 ar gael ar wefan yr Eisteddfod neu drwy'r post o'r brif swyddfa.
Er chwilio bob dydd ers wythnosau ym mol yr hen gyfrifiadur nis ymddangosodd y cyfryw adroddiad.
Beth yn union, felly, a gyflwynir yn y cyfarfod fore Iau? Drosodd atoch chi barchus ysgrifennydd y Steddfod.
C芒n di bennill Ac yn 么l at ddoe i orffen a digwyddiad pur hanesyddol.
Dyma'r diwrnod pan fu i Robyn Llyn droi at Jonsi o bawb am ddyfyniad i grisialu ei obeithion ynglŷn 芒 safiad aelodau'r Orsedd pan ddaw hi'n amser iddyn nhw fel aelodau o Lys yr Eisteddfod bleidleisio ar fater Cymreictod yr Wyl.
Cofiwch, medda fo, mai Cymraeg a Chymraeg yn unig ydi iaith yr Orsedd.
Roedd yn ddyletswydd arno, meddai wedyn, gofyn ichi gadw eich hun yn bur.
Pwy fasa'n ei ddychmygu ef a Jonsi yn canu o'r un llyfr emynau? O Barc Tredegar, bore da.
|
|
|
|