Cas-newydd: Gwilym dydd Mercher
Mae Gwilym Owen yn y Steddfod ac yn darlledu ar y Post Cyntaf bob bore.
Ymweliad amserol
Cyfarchion unwaith eto o Barc Tredegar, lle mae olwynion yr hen genedl fach niwrotig yna yn dal i droi.
Ac roedd 'na le i lawenhau yma ddoe. Ein Prif Weinidog hoff, Rhodri Morgan, oedd Llywydd y Dydd a wyddech chi fe gyrhaeddodd mewn da bryd i esgyn i'r llwyfan i gyflwyno ei neges am ddau o'r gloch.
Sy'n profi unwaith ac am byth ei fod o bellach yn gallu deud faint o'r gloch ydi hi - wel ar ei wats o leia' - beth bynnag am sefyllfa Cymru. Purion Steddfod
Ac er bod y Steddfod eleni yng nghanol dalgylch poblogaidd y Western Mail digon tila ydi'r sylw i'r Brifwyl yn y papur.
A phwy ond un o is olygyddion trendi y rhecsyn o Gaerdydd fyddai'n cyflwyno stori dudalen flaen am y nifer fawr o ymwelwyr sydd ar y maes am y tro cyntaf gyda'r pennawd "Eisteddfod Virgins flock in."
Dewis anffodus mewn cyswllt anffodus. Ddeuda i ddim mwy.
Fawr o hwyl
A rŵan at gyhoeddiad arall newydd sbon, Dim Lol y cylchgrawn dychanol ar gyfer pobl ifanc Cymru.
Ond rhaid imi ddeud y byddai "Dim Hwyl" yn well teitl i'r rhifyn cynta' 'ma.
Rywsut mae'r golygydd druan wedi syrthio rhwng dwy st么l.
Gwell hwyl y tro nesa' falla a beth am wrthod sylwadau maleisus personol ambell i gyfryngi chwerw sy'n defnyddio ei ryddid i golbio cydweithwyr yn ddienw.
Hen arfer Cymreig cas ydi hynny.
Croeso n么l?
A throi o falais at ddiniweidrwydd neu anwybodaeth un o aelodau Pwyllgor Gwaith Prifwyl Casnewydd - gwraig weithgar a chydwybodol.
Wrth ei dyletswyddau yn y pafiliwn yn 么l pob s么n ac yn sydyn yn dod wyneb yn wyneb 芒'r Prifardd J芒ms Niclas yr oedd hi wrth ei bodd.
"Dwi wedi bod isio'ch cyfarfod chi erioed" medda hi. "Sut ydach chi Cynan.?"
Dwn i ddim beth oedd yr ymateb na beth ddywedwyd wedyn!
Ei chop茂o hi
Ond yn sicr fe ges i ymateb sydyn iawn i'r cwestiwn ofynnais i bore ddoe ynglŷn ag absenoldeb adroddiad blynyddol y Brifwyl ar y We, fel yr addawyd mewn llythyr at aelodau'r Llys rai wythnosau'n 么l.
O fewn awr i'm darllediad ar y Post Cyntaf roedd yna gopi o'r cyfrwy adroddiad o'm blaen yn Ystafell y Wasg ac fe'm ceryddwyd gan y Cyfarwyddwr, Elfed Roberts, fod copi ar gael i bob aelod o'r Llys sy'n dymuno hynny cyn y cyfarfod blynyddol bore fory.
Cyd ymdrechu
A dau gwestiwn bach i orffen.
Yn gyntaf onid gwastraff amser ydi'r ffaith fod Cymdeithas yr iaith Gymraeg a Cymuned wedi penderfynu cynnal dau gyfarfod cyhoeddus - un ar 么l y llall - ym Mhabell y Cymdeithasau - rhwng dau a phedwar y pnawn ma.
Dowch dowch hogia bach. Mewn undeb mae nerth.
Drachtio diwylliant
A'r ail gwestiwn ydi hwn.
Ydi'r Prifeirdd Meirion MacIntyre Huws a Twm Morys ynghyd 芒'r Prif Lenor Robin Llywelyn wedi peri gofid mawr i Feistres y Gwisgoedd yng Ngorsedd y Beirdd trwy benderfynu mynd am beint ar y maes yn eu gwisgoedd gorseddol ddydd Llun?
Tybed a fydd yna gyfarfod i'w disgyblu.
O Barc Tredegar, bore da.