Adolygiad : Syth o'r Nyth
Dim nostalgia i Eisteddfotwyr?
Perfformiad Maes C, nos Sul, Awst 1af, 2004.
Mae' n nhw'n dweud fod 'Nostalgia'n Gwerthu' ond yn amlwg nad yw hyn yn wir mewn cyd destun Eisteddfodol. Dim ond llond llaw o bobl a drodd allan i Faes C i weld sioe cafwyd ei hysgrifennu, yn wreiddiol i'w pherfformio yn Theatr Fach y Maes -T欧 Ddewi, gan LLio Silyn a Janet Aethwy.
Er mai siomedig iawn oedd y gefnogaeth roedd yr arlwy yn bleser llwyr.Yn y sioe cawn bytiau hunangofiannol am ddyddiau plentyndod ac arddegol. Ar y cyfan darnau doniol ddifyr a geir , wedi ei bupuro yma a thraw gydag ambell i sylw bachog neu grafog.
Y ddwy a ysgrifennodd y gwaith oedd hefyd yn ei berfformio. Roedd gwylio'r ddwy yn datgelu digwyddiadau a theimladau difyr o'u plentyndod eu hunain fel gael cip yn eu dyddiaduron , atgyfnerthir y teimlad yma gan bod y ddwy yn wir yn darllen o lyfrau/ ffeiliau yn ystod y perfformiad.
Mae'n rhaid i mi gyfaddef nad oeddwn i ar d芒n i weld y perfformiad yma gan bod y ddwy awdur bellach yn eu pedwardegau. Meddyliais yn si诺r na fyddai cynnwys y monologau yn berthnasol i rywun o'm cenhedlaeth i sydd dros ddeng mlynedd yn fengach. Ond fe'm profwyd yn anghywir, mae'n amlwg o'r perfformiad fod y teimladau yr awn ni drwyddyn nhw yn ystod y blynyddoedd yn deimladau oesol. O'r cynnwrf a deimlwyd o gael mynd i aros, pan yn chwech oed, at nain 'ar fy mhen fy hun', i wefr y gusan gyntaf ,a'r siom cyntaf yn parhau.
Gwnaed defnydd celfydd o gerddoriaeth yn ystod y perfformiad, i'n tywys o un flwyddyn i'r llall . Mi oedd hyn ychydig yn gymysglyd i mi gan nad yw fy ngwybodaeth am gerddoriaeth y 60au a'r 70au mor wych 芒 hynny, ac fe aeth ar goll yn llwyr ar fy nghyfaill ,Cenin, a hithau newydd droi yn ddeunaw.Wedi deud hyn , er nad oeddem yn medru gosod y gerddoriaeth yn ei gyd-destun cronolegol , roedd hefyd yn arf i osod teimlad y darn neu ddarnau oedd i ddilyn ac felly yn ffordd wych o bontio rhwng y darnau .
Noson dda iawn i unrhyw un sy'n hoffi nostalgia, ond gan i gymaint o amser a theimladau fynd i baratoi y darnau mae hi'n bechod na roddwyd fwy o sylw am y noson ac efallai y gallai Llio Sylyn a Janet Aethwy fod wedi perfformio o flaen y maint o gynulleidfa yr oeddent yn ei haeddu yn hytrach na'r pymtheg oedd yno.
Adolygiad gan Beth Angell.