| |
Dyn Dwad i brofi cwrw'r Steddfod
Bydd y drefn newydd o werthu diodydd meddwol ar Faes yr Eisteddfod yn cael ei rhoi ar brawf yng Ngasnewydd. A hynny gan arbenigwr yn y maes!
I gyd-fynd 芒 chyhoeddi ei nofel newydd bydd "Y Dyn Dwad" yn galw yn y babell fwyd ddydd Mercher i weld a fydd modd cael peint.
"Ac yna bydd yn symud ymlaen, os y bydd yn dal i allu sefyll, i babell y Cyngor Llyfrau a'r Lolfa i ddweud gair am ei nofel newydd," meddai llefarydd ar ran Y Lolfa sy'n cyhoeddi Walia Wigli y drydedd nofel yng nghyfres anturiaethau Y Dyn Dwad gan Dafydd Huws.
Daeth Y Dyn Dwad - Goronwy Jones - i amlygrwydd gyntaf trwy ysgrifau beiddgar am fywyd Cofi yn nhafarndai Caerdydd ym mhapur bro'r Dinesydd.
Yn nes ymlaen darlledodd S4C ddrama deledu wedi ei seilio ar erthyglau'r Dinesydd gyda Llion Williams yn chwarae rhan Goronwy Jones.
A bydd Llion Williams yn actio'r Dyn Dwad yn ystod y lansiad ym Mhabell Fwyd Capital Cuisine ar faes yr Eisteddfod ddydd Mercher am un o'r gloch ac yna ym Mhabell y Cyngor Llyfrau am dri o'r gloch
Yn dilyn ffilm S4C, cyhoeddwyd Un Peth Di Priodi Peth Arall Di Byw, sef nofel am fywyd priodasol Goronwy Jones yng nghanol crach Caerdydd.
"Bellach, ar drothwy'r mileniwm newydd, mae Gron yn dad i Gwenllian Arianrhod ac yn stryglo i wneud synnwyr o Gymru newydd y Cynulliad, Cwl Cymru, The Party of Wales a'r Cyfrifiad.
"Yng nghanol y chwerthin, y dychan a'r yfed, mae'r Dyn Dad yn eich sobri, ac yn taro deuddeg wrth edliw rhai gwirioneddau am ragrith ffals ein 'Cymreictod' a'r gymdeithas sydd ohoni. Caiff y Dyn Dwad sawl cyfle mae'n siwr i anelu ambell i gic haeddiannol ar faes y Steddfod," meddai'r Lolfa.
.Mae Walia Wigli eisoes wedi ei chanmol gyda'r Lolfa yn dyfynnu Sh么n Williams yn y Western Mail yn dweud: "Pethau prin ar y naw y dyddiau yma yw nofelau Cymraeg sy'n edrych yn dreiddgar ar wleidyddiaeth, cymdeithas a natur y Gymru Gymraeg sydd ohoni, a gwneud i chi chwerthin yn uchel yr un pryd."
Ac meddai'r Lolfa hefyd mewn datganiad i'r Wasg: "Dywedodd Simon Brooks, golygydd Barn, (mai) y Dyn Dwad yw'r pwysicaf o'n nofelwyr cymdeithasol." ar Llais Ll锚n
|
|
|
|