成人论坛

Explore the 成人论坛
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

成人论坛 VOCAB : OFF / I FFWRDD

Turn on / Troi ymlaen

Language Help / Cymorth Iaith


成人论坛 Homepage
Hafan Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Straeon

Archdderwydd yn ffarwelio

11 Awst 2007

Selwyn Iolen gyda Jams Niclas ar y chwith

Pwysig cofio pwy sy'n bwysig!

Un o'r pethau y bydd yr Archdderwydd Selwyn Iolen yn ei drysori o'i gyfnod yn Archdderwydd yw digwyddiad ar faes Caernarfon.

Gwraig ar y Maes yn y dref yn dweud wrtho ar ei longyfarch:

"Roeddwn i'n dweud wrth y gwr 'cw; chap ifanc fatha chi sy isio ar gyfer y job yna."

Ac meddai Selwyn Iolen gan chwerthin wrth ffarwelio 芒'i Eisteddfod olaf yn Archdderwydd yr wythnos hon;

"Ond r诺an mae'r amser wedi dod i'r chap ifanc yma ddod o hyd i rywun ifancach na fo i wneud y job yma - a Dic Jones ydi hwnnw" meddai."

Dim ond un orchwyl swyddogol sydd i Selwyn Iolen ei chyflawni cyn y digwydd hynny - agor cyfarfod yr Orsedd i gyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Y Bala 2009 fis Gorffennaf nesaf ac ar gychwyn y seremoni gorseddu Dic Jones yn Archdderwydd am y tair blynedd wedyn.

Dywedodd Selwyn Iolen iddynt fod yn dair blynedd hapus iawn iddo.

Ac wrth ddiolch i aelodau'r Orsedd am eu cefnogaeth dywedodd:

"A diolch yn fwy na dim i aelodau'r gynulleidfa yn y pafiliwn a rhai sydd wedi dod ata i ar hyd y maes am sgwrs - mae hynny wedi bod yn uchafbwynt i mi."

Dywedodd hefyd iddo geisio cofio gydol yr amser nad yr Archdderwydd yw'r person pwysig ar lwyfan prifwyl.

"Nid y fi oedd yn bwysig ond y sawl oedd yn codi ar alwad y corn gwlad. Fy ngwaith i oedd gwneud y diwrnod yna yn gofiadwy iddyn nhw ac yn rhywbeth i gofio amdano fo am byth.

"Hynny oedd fy nghyfrifoldeb i . Nid y fi sy'n bwysig ar y diwrnod yna ond y fo," meddai.



About the 成人论坛 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy