Cliciwch yma i edrych ar luniau o'r noson.Yn perfformio ar y noson, roedd Caryl Parry Jones, sy'n wreiddiol o Dyserth gyfagos, gyda'i band, y Millionaires,yn canu yn ei milltir sgw芒r, lle y bwriodd ei phrentisiaeth cerddorol. Roedd ei thad, Rhys Jones, hefyd yn cyfeilio.
Yn ymuno 芒 Caryl roedd y ddeuawd o Ben Ll欧n - John ac Alun. Roedd hogan leol arall sydd wedi hen arfer perfformio, Tara Bethan, yn rhoi gwefr i'r gynulleidfa gyda'i llais swynol. Mae Tara newydd fod yn ffilmio ei rhan newydd yng nghyfres deledu Footballers Wives. Roedd Trebor Edwards hefyd yn ychwanegu at y rhestr raenus o berfformwyr a rhoddodd Ffarmwr Ffowc ei b卯g i mewn i wneud yn si诺r fod digon o hwyl a chwerthin.
Roedd y cyngerdd hwn yn ddechrau ar dymor o weithgaredd gan Radio Cymru yn y gogledd ddwyrain. Y bwriad yw cael mwy o leisiau lleol ar yr orsaf gan ddarlledu o ddigwyddiadau lleol a recordio a darlledu rhaglenni o'r gwahanol ardaloedd.
Bydd llu o gyflwynwyr poblogaidd Radio Cymru i'w gweld a'u clywed yn yr ardal hefyd - Jonsi, Si芒n Thomas, Owain a Dylan mewn ardaloedd o Ryl i Ros, o Ruthun i Wrecsam.