Pan aeth Dewi Llwyd i fyd newyddiadura, roedd y cam i ohebu ar wleidyddiaeth yn un naturiol i un 芒 diddordeb oes yn y byd. Roedd gwleidyddiaeth yn rhywbeth a drafodid yn gyson ar yr aelwyd ym Mangor, ac ers yn ddim o beth roedd Dewi wedi bod yn mynychu cyfarfodydd cyhoeddus gyda'i dad. "Mae gwleidyddiaeth yn ddiddordeb ers dyddiau cynnar iawn - dyddiau ysgol hyd yn oed," meddai. "Dwi'n cofio mynd i gyfarfodydd cyhoeddus mewn neuaddau yn ardal Bangor. Wrth gwrs dyw ardal Bangor ddim yn rhan o sedd ddiogel ac o'r herwydd roedd y ddinas yn denu gwleidyddion o Lundain. N么l yn y chwedegau dwi'n cofio George Brown, un o ffigyrau amlyca' a mwyaf lliwgar cabinet Harold Wilson yn rhegi o'r llwyfan ym Mangor! Bryd hynny doedd y teledu ddim mor bwysig." Mae'n fyd sydd wedi gweld tipyn o newid: "Mae spin mor ddylanwadol erbyn hyn. Mae pobol yn siarad, rhywun yn dadansoddi'r hyn maen nhw wedi ei ddweud, ac mae rhywun yn dadansoddi'r dadansoddiad - tyllu trwy'r niwl hwnnw yw'r her a dyna rydyn ni yn geisio ei wneud gyda rhaglenni fel Pawb a'i Farn a Maniffesto." Mae Dewi yn cyfaddef ei fod wrth ei fodd ar ddechrau cyfres newydd o Pawb a'i Farn (Dydd Iau, Tachwedd 4, 成人论坛 Cymru ar S4C), a hynny er nad yw gwleidyddiaeth bob amser yn ganolog i'r rhaglen. "Gan amlaf, nid gwleidyddion yn unig sydd ar y rhaglen," meddai. "Mae'r lleygwyr a llawn cymaint i'w ddweud a'r un mor huawdl. O reidrwydd mae pynciau gwleidyddol yn codi ond pwrpas y rhaglen yw rhoi llais i bawb i drafod unrhyw bwnc dan haul sy'n peri pryder iddyn nhw. "Mae'r croeso rydyn ni yn ei gael yn y gwahanol ardaloedd yn rhyfeddol. Mae pobol ambell i ardal yn fwy cyndyn o siarad ac ardal arall yn llawn traethwyr cyhoeddus. Er enghraifft yn ardal Meirionnydd a Maldwyn, mae pobol yn fwy parod i eistedd n么l a gwrando, maen nhw'n wrandawyr craff ond pan maen nhw yn cael dweud eu dweud maen nhw yn werth gwrando arnyn nhw. Mae ardal fel Cwm Gwendraeth wedyn yn llawn pobol sy'n cael eu tanio'n hawdd." A'r amrywiaeth hon sy'n cadw'r gwaith yn ddifyr: "Dwi'n edrych ymlaen yn aruthrol. Dyma uchafbwynt fy mlwyddyn i - cael mynd i bob cornel o Gymru. Yn y gyfres yma fe fyddwn ni yn mynd i Harlech a Phontarddulais am y tro cyntaf ac hefyd yn mynd i Gaerdydd - yn rhyfeddol dydyn ni heb fod yno ers blynyddoedd!" Ac am y gyntaf yn y gyfres newydd hon o Pawb a'i Farn, pobol Dinbych fydd yn cael dweud eu dweud wrth banel sy'n cynnwys Gareth Thomas AS, Elfyn Llwyd AS, Peredur Huws o'r NFU a lladmerydd dros yr iaith Gymraeg, Nia Parri.
|