Mae gr诺p o bobl ym Moelfre wedi mynd ati i gyflwyno hanes cyfoethog y pentref i dwristiaid a dod 芒 phobl y pentref at ei gilydd i ddatblygu eu hadnoddau.
Y tywyswyr yn adrodd hanes y pentrefEisoes, mae'r pentrefwyr yn cynnal teithiau tywys i ymwelwyr sy'n eu dysgu am lefydd hanesyddol fel safle llongrylliad y Royal Charter, cartrefi pobl enwog lleol ac ymweliad Charles Dickens 芒'r pentref yn ohebydd ifanc.
Ac r诺an maen nhw wedi creu gwefan i sicrhau bod yr holl wybodaeth ar gael ar y we fyd eang.
Mae hi'n cynnwys gwybodaeth am fusnesau lleol fel siopau, gwestai a llefydd bwyta, lluniau a map rhyngweithiol sy'n ymhelaethu ar hanes gwahanol bwyntiau ar y map.
Partneriaeth Moelfre - gr诺p o tua 30 o bobl leol - sy'n gyfrifol am y gwaith yma a ddechreuodd gyda chyhoeddi cylchlythyr rheolaidd i bobl y pentref.
Yn 么l Jackie Lewis o Menter M么n, sef y sefydliad sydd y tu 么l i sawl partneriaeth debyg ym M么n, Partneriaeth Moelfre yw'r unig un ar yr ynys sydd wedi mynd ati i ddatblygu eu hagenda eu hunain - a'r cyntaf i gynnal teithiau tywys.
Mae'r diolch am hyn, meddai, i ymroddiad y bobl leol.
Mae'r teithiau tywys a lawnsiwyd yn 2003 yn rhoi bywyd newydd i hanes y Royal Charter, ymweliad Charles Dickens, y morwr lleol Twm Penstryd a fu fyw drwy drychineb y Cospatrick, yn 么l yr hanes, drwy droi at ganibaliaeth ac arwriaeth Dic Evans, llywiwr enwog bad achub Moelfre. Seiliwyd y teithiau a'r taflenni sy'n cyd-fynd 芒 nhw ar waith ymchwil yr hanesydd lleol, Robin Evans.
Ond er llwyddiant y prosiectau hyn, 'does dim golwg bod y bartneriaeth am orffwys ar eu rhwyfau - mae ganddyn nhw sawl prosiect arall ar y gweill fel yr eglura'r cynghorydd Derlwyn Hughes, sy'n un o aelodau blaenllaw Partneriaeth Moelfre.
"Mi fydd dwy daith gerdded newydd yn cael eu cyflwyno - taith y saith traeth a thaith lenyddol yn manylu fwy ar y Royal Charter a Charles Dickens," meddai.
"Rydym hefyd yn gobeithio cyhoeddi llyfryn dwyieithog syml gyda lluniau ar drychineb yr Hindlea ynghyd 芒 dilyniant yn croniclo hanes Eglwys Llanallgo yn nes ymlaen.
"Rydyn ni'n tr茂o gweld yn bell a meddwl am syniadau newydd," ychwanegodd.
"Mi fydd hi'n 150 o flynyddoedd ers suddo'r Royal Charter yn 2009, felly rydyn ni'n meddwl ymlaen at hynny hefyd."
Yn ogystal, mae t卯m gweithgar wedi bod wrthi'n codi 拢40,000 i godi cofeb i Dic Evans a fydd wedi ei leoli nid nepell o gwt y Bad Achub ger canolfan yr Wylfan, sef canolfan ymwelwyr sy'n cofnodi hanes morwrol y pentref.
Gobeithir dadorchuddio'r cerflun efydd, sydd wedi eu greu gan y cerflunydd Sam Holland, tua diwedd Medi.
Bwriad y bartneriaeth maes o law ydy datblygu eu gwefan newydd i gyfleu gwybodaeth am orffennol a phresennol y pentref ac ychwanegu lluniau, hen a newydd, o'r ardal.