"Dwi'n cerdded o leiaf bedair milltir bob dydd o amgylch Moelfre a dwi'n nabod yr ardal yn dda. Felly pan ofynnwyd imi dywys rhai o'r teithiau cerdded o amgylch y pentref, doedd waeth gen i gerdded efo'r criw neu ddim! Dwi wedi arwain y rhan fwyaf o'r teithiau cerdded ond yr un Charles Dickens yw fy hoff un. Dwi wastad wedi bod yn hoff iawn o ddarllen ac mi ddarllenais lyfrau Charles Dickens i gyd yn hogan fach gan eu bod nhw yn nh欧 nain. Roeddwn yn rhyfeddu i ddyn mor enwog ddod i Foelfre ac mi ddysgais ar fy nghof ddarnau o'r bennod yn ei lyfr Uncommercial Traveller oedd yn ymwneud 芒'i ymweliad. Y traddodiad yw i Charles Dickens aros mewn t欧 o'r enw Bryn Peris pan ddaeth yma yn Nhachwedd 1859 i sgwennu am drychineb y Royal Charter. Mae eraill yn dweud mai yng ngwesty'r Albion ym Mangor y gwnaeth o aros, ond roedd nain yn benderfynol mai ym Mryn Peris yr oedd o - ac mae 'na d欧 o'r un enw yn dal yma heddiw. Yn ei lyfr, soniodd am y storm fawr a'r cyrff ar y traeth oedd mewn cyflwr ofnadwy wedi eu malurio ar y creigiau. Dim ond oddi wrth y tat诺s oedd arnyn nhw roedd hi'n bosib adnabod rhai o'r cyrff - yn enwedig y llongwyr. Mae'n rhaid hefyd ei bod yn ffasiwn i brynu parot ar y pryd gan fod derbynneb am barot ym mhocedi rhai o'r cyrff. Roedd Dickens wedi rhyfeddu efo'r Rev. Roose Hughes a soniodd lot amdano. Fe ysgrifennodd gannoedd o lythyrau at berthnasau'r rhai a fu farw. Wrth ddod i'r eglwys fach yn Llanallgo i weld corff byddai'n rhaid iddyn nhw wisgo mwgwd i'w rhwystro rhag gweld y cyrff eraill. Claddwyd y cyrff bob yn bedwar mewn beddi a'u codi i'w dangos i'r teulu. Hynny effeithiodd ar iechyd Roose Hughes a fu farw 'chydig o flynyddoedd wedyn. Dwi wedi gweld llythyr sy'n gwahodd Roose Hughes a'i wraig i fynd i weld merched Charles Dickens yn Llundain, ond dwi ddim yn si诺r os aethon nhw. 'Da ni wedi cael pobl reit academaidd ar daith Charles Dickens a rhai sy'n hoff iawn o gerdded. Weithiau dydw i ddim yn si诺r faint o'r stori maen nhw ei eisiau tra'n cerdded ond rydym yn stopio yn Eglwys Llanallgo i ddarllen 'chydig o Dickens. Nod arall y teithiau ydy dangos i bobl ddieithr ein bod yn siarad Cymraeg gyda'n gilydd. Mae pob un o'r tywyswyr heblaw am un yn siarad Cymraeg ac rydym yn siarad Cymraeg efo'n gilydd ar y teithiau cerdded. Mae rhai o'r ymwelwyr yn synnu'n fawr." Am ragor o fanylion am y teithiau cerdded, cysylltwch 芒 Gwylfan Moelfre ar 01248 410277.
Ymlaen i straeon am rai o forwyr y pentre yng nghwmni Gwilym Hawes...Achub criw yr HindleaSuddo'r Royal Charter
|