"Dwi wedi ymddiddori yn hanes yr ardal erioed ac fel mae'n digwydd, gofynnodd rhywun i mi fod yn dywysydd ar y teithiau cerdded o amgylch Moelfre. Cafwyd cyfarfodydd i'r tywyswyr wybod beth i'w wneud ac roedd y rhain yn gymorth mawr.
"Ddoe, mi wnes i dywys taith o amgylch y pentref yn s么n am forwyr Moelfre. Mi ddechreuais ger y cwt bad achub, yn s么n am achub yr Excel yn 1927, pan gollwyd capten William Roberts, coxen y bad, ac un o griw yr Excel - roedd yn ddigwyddiad nodedig iawn.
"Yna dwi'n mynd ymlaen i s么n am y llongau glo a fyddai'n dod i mewn i Foelfre - a'r stori am y llong a aeth ar y traeth a phawb yn dod i helpu eu hunain i'r glo! Mae'n beth da dod ag ychydig o hiwmor i'r daith.
Yr Hindlea a'r Royal Charter
"Wedyn rydan ni'n cyrraedd y man lle suddodd yr Hindlea gan mlynedd yn union ar 么l y Royal Charter.
"Yna mi wna'i ddweud ychydig am Ynys Dulas, a chofeb y Royal Charter, a cherdded yn 么l i edrych ar y ddau d欧 lle gwelwyd y Royal Charter mewn trafferthion am y tro cyntaf. Cocyn Isa a Chocyn Ucha oedd enwau'r tai, er eu bod wedi altro erbyn hyn a Trigfa ydy enw Cocyn Isa.
"I lawr wedyn ar hyn L么n Powdwr - dwi'n meddwl eu bod yn arfer cludo powdwr chwythu i'r chwarel. Heibio'r gofeb fechan ar gyfer y bechgyn fu farw yn y rhyfeloedd. Penderfynodd y pentref wario'r arian ar oleuo Moelfre yn hytrach na chodi cofeb fawr, ac mae enwau'r bechgyn ar y gofgolofn ym Marianglas.
Twm Pen Stryd - y 'canibal'
"Dwi'n gorffen gyda hanes Twm Pen Stryd, neu Tomos Lewis. Yn 1874, suddodd ei long heb fod yn bell o'r Cape of Good Hope, gyda bron i 500 o griw ac eraill arno.
"Llosgwyd y llong yn ulw a dim ond dau gwch bach oedd ar 么l yn y m么r, gyda ychydig o fewnfudwyr a rhai o'r criw arnynt. Doedd dim d诺r na bwyd ar y llong felly torrodd Twm arddwrn un dyn oedd wedi marw, yfed y gwaed a gwneud i bawb arall wneud hynny hefyd. Roedd ei ysbryd yn benderfynol o fyw.
"Yn y diwedd, ar 么l deng diwrnod - ac er i ddwy long fynd heibio - achubwyd y rheini oedd yn weddill, ond dim ond Twm a dau aelod arall o'r criw ddaeth adref.
"Daeth yn 么l i Foelfre i fyw gyda'i fam a'i chwaer briod. Cafodd ei drin yn iawn gan y papurau newydd. Ni fu s么n amdano fel canibal, ond fel un oedd wedi achub dau ddyn arall.
"Wedyn, pan oedd yn gweithio ar y llongau ym Mangor, syrthiodd darn o lechen ar ei goes a chollodd ei goes. Bu'n cerdded wedi hynny o amgylch Moelfre gyda choes bren - roedd yn gymeriad arbennig iawn. Mae wedi ei gladdu ym mynwent eglwys Llanallgo. A dyna ni, yn 么l yn yr Wylfan.
"Mae llawer o bobl ddieithr yn dod ar y teithiau ac yn eu mwynhau. Dwi wedi ymddeol r诺an ond yn dal yn gallu cerdded! Felly dwi'n mwynhau'n fawr hefyd."
Am ragor o fanylion am y teithiau cerdded, cysylltwch 芒 Gwylfan Moelfre ar 01248 410277.Profiadau'r tywysydd Valmai ReesAchub criw'r HindleaSuddo'r Royal Charter