成人论坛

Explore the 成人论坛
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Goglais

成人论坛 Homepage
成人论坛 Cymru
成人论坛 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人论坛 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Cerys Matthews Cerys Matthews yng Nghaernarfon
Aeth Megan Jones o Dregarth i weld Cerys Matthews yn perfformio yng Nghaernarfon fel rhan o'i thaith o Brydain yn Hydref 2006, gydag Alun Tan Lan yn cefnogi.
"Ar noson oer, wlyb a gwyntog yng nghanol mis Tachwedd cafodd y rhai hynny oedd yn ddigon dewr i fentro allan i'r ddrycin y profiad anhygoel o weld perfformiad bythgofiadwy gan Cerys Matthews ar ein stepan drws yn Galeri, Caernarfon.

Cychwynnodd y noson gyda pherfformiad gwerinol, gwreiddiol, gwych gan Alun Tan Lan. Cafodd y gynulleidfa wledd o ganu gan gynnwys nifer o'i glasuron megis 'Byw Ar Ben Fy Hun', c芒n ramantus a fyddai'n gallu toddi'r galon galetaf.

Roedd yn eistedd ar y llwyfan ar ben ei hun gyda dim ond git芒r am gwmni, gan hoelio sylw'r gynulleidfa er ei edrychiad diymhongar, mewn jeans bl锚r a chrys pinc gyda'i wallt yn dawnsio o flaen ei lygaid. Cafodd y gynulleidfa flas o ddeunydd newydd Alun Tan Lan gyda nifer o ganeuon oddi ar ei ail albwm gan gynnwys 'Eira', 'Tywod'a 'Perlau'.

Unwaith eto, caneuon bregus, llawn gwres cariad gan ddangos dawn arbennig Alun Tan Lan am eiriau tyner, teimladwy sy'n taro'r galon.

Yna y foment roedd y holl gynulleidfa wedi bod yn disgwyl yn eiddgar amdani, daeth Cerys Matthews i'r llwyfan yn disgleirio, gan edrych yn anhygoel mewn ffrog werdd at y llawr. Perfformiwyd 'Elen', c芒n llawn emosiwn sy'n dod 芒 dagrau i'r llygaid, gydag Alun Tan Lan yn cymryd y rhan a berfformiwyd gan Gruff Rhys ar y sengl a ryddhawyd yn ddiweddar.

Cafodd y gynulleidfa weld perfformiad hyderus a hudol gyda thrawsdoriad o ganeuon, o gerddoriaeth gwlad Nashville i ganeuon tyner a thrist, gan ddangos holl ystod llais Cerys Matthews o sibrwd sensitif i ganeuon cryf llawn nwyd ac emosiwn.

Cafwyd perfformiadau lu, o ganeuon oddi ar ei dwy albwm, 'Cockahoop' a 'Never Said Goodbye', gan gynnwys 'The good in goodbye' a 'Only a fool', caneuon tyner gan ddangos tristwch syrthio mewn, a cholli cariad.

Ond nid melancoli a thristwch oedd ymdeimlad y noson o gwbl, roedd yn noson llawn bywyd gyda Cerys Matthews yn llawn hwyl gan sgwrsio a thynnu coes gyda'r gynulleidfa. Roedd yr holl ganeuon yn ardderchog gan ddangos dawn amlwg i gyfansoddi caneuon llawn hwyl sy'n byrlymu gydag ysbryd gwrthryfelgar y gantores megis 'Chardonnay' a 'If you're lookin' for love'.

Daeth Cerys Matthews a nifer o ganeuon gan artistiaid newydd, ffres ac anghyffredin i ni yma yng Nghymru i sylw'r gynulleidfa gan roi ei stamp unigryw ar ganeuon gan fand y foment o America 'The Decemberists'.

Cafodd y gynulleidfa fraint o glywed Cerys Matthews yn perfformio ambell i berl Gymraeg gan gynnwys Lisa L芒n, a rhoddwyd clo gwych i'r noson o adloniant anhygoel gyda pherfformiad ysgytwol o 'Arglwydd Dyma Fi'.

Dyma noson o adloniant pur, gyda pherfformiadau gwefreiddiol oedd yn ddigon i gynhesu'r holl gynulleidfa ar noson oer a gwlyb yng nghanol mis Tachwedd."

Megan Jones, Tregarth

Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng 成人论坛 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.


Lleol i Mi
Radio Cymru
Llyfrau


About the 成人论坛 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy