"A ystyrio, cofied mai doeth yw cysidro beth a ddymunir, rhag ofn fod llygedyn o obaith i'r dymuniad hwnnw gael ei wireddu. Maddeuwch imi am yr athronyddu yma ond cyfeirio yr wyf at gyffes annoeth y Proffwyd Bobi Jones a ddywedodd y dylid dileu'r ddraig goch fel cynrychiolydd Plaid y Cymry ac 'mai addasach symbol fyddai'r asyn'. "Fe wireddwyd dymuniad y Proffwyd a dil毛wyd yr hen ddraig goch (addas iawn os caf ddweud gan mai aer claear, yn hytrach na th芒n, ddaw o enau draig Plaid Cymru y dyddiau yma) ond na, nid mul a gafwyd ond yn hytrach y Meconopsis Cambrica. Ia, y Pabi Cymreig i chi a fi! Buasai'n rheitiach fod wedi cael mul i gicio ychydig ar y tresi ac i roi cic ychwanegol dan benolau'r 'gwleidyddion' sydd bellach yn ran o'n Plaid Genedlaethol ac yn llefaru yn llipa drosom, na phabi neis, neis.
"Dechreuodd olwyn yr ailddelweddu droi gyda dyfodiad y logo sain sydd, o mor fodern, yn eich croesawu i wefan y blaid ac ar gael fel t么n i'ch ff么n symudol. Syniad gwefreiddiol. Bydd y tonau polyffonig yma'n si诺r o fod yn 'hit' gwleidyddol a fydd yma ymhell ar 么l yr anfarwol Dafydd Iwan. Ni orffennodd y 'moderneiddio' yma. Cyhoeddwyd yn y Gynhadledd Wanwyn y ddedfryd o farwolaeth i'r triban coch ar gefndir gwyrdd a fu'n symbylu Plaid Cymru ers 1933 a daeth arfer oes i ben. Rhoddwyd hergwd i'r ddraig goch sy'n symbol o wir Gymreictod ers cyn co' a dienyddwyd pennau'r tri triban a arferai gynrychioli prif werthoedd y blaid (sef, rhag ofn nad ydynt yn hysbys, hunanlywodraeth i Gymru, ffyniant diwylliannol a ffyniant economaidd).
"Be haru mi dudwch yn galaru ar 么l hen arfer, hen-ffasiwn? Beth yw'r ots am ddileu arfer 70 mlynedd a oedd yn enghraifft o symbol plaid wleidyddol hynaf Prydain? Onid yw'r Pabi Cymreig, melyn yn dod a llygedyn o oleuni i'r sff锚r gwleidyddol? Onid oes angen ailafael yn allweddair y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dod a 'chynnydd' yn 么l i Gymru? Mae'n debyg mai fi, fel cynrychiolydd y genhedlaeth nesaf, sy'n rhy geidwadol a hen-ffasiwn a chibddall i sylwi mai ymgais y gwleidyddion i foderneiddio Cymru yw hyn. Bydd y Pabi yma'n symbylu'r 'gwerthoedd' newydd o hybu nwyddau organig ac yn cynrychioli holl boblogaeth Cymru. Collwyd y lliwiau traddodiadol o goch a gwyrdd ac yn eu lle cafwyd plastar o felyn cyfoglyd. Ydi, mae'r blaid wedi cael y clwy melyn. Onid ymgais yw hyn i efelychu y Democratiaid Rhyddfrydol sydd, drwch blewyn, yn fwy llwyddiannus eu hap锚l i bobl Cymru? Ymateb Dafydd Iwan i hybu'r ailddelweddu yma oedd llunio englyn:
'Y pabi dros ein pobl - i seilio
Ar sail ein gorffennol
Ein clir nod i'r dyfodol
I roi nerth i Gymru'n 么l.
"Ystyriwch: ai bardd ynteu gwleidydd craff y mae Cymru ei ddirfawr angen ar hyn o bryd? Efallai mai aros am ddyfodiad y mab/merch darogan yw'r unig ateb i gael Cymru wleidyddol lewyrchus ac wrth aros cofiwch fod ar eich gwyliadwraeth am foch bach yn hedfan.
"Gyda dyfodiad y logo sain, newid symbol a newid lliw y blaid, cam 'naturiol' oedd newid ei henw hefyd a daeth Plaid Cymru neu'r Party of Wales ddamniol yn 'Plaid'. Ia, Plaid. Dim ffrils. Dim ffys. Dim ond Plaid. Nid yw enw pwt o wlad fel Cymru'n haeddu cael ei chynnwys yn nheitl Plaid Gwleidyddol ei gwlad bellach. Wrth ddisgrifio'r newid radicalaidd yma dywedodd un gwleidydd fod y cymysgwch yngl欧n ag arwyddoc芒d polis茂au'r blaid bellach wedi dod i ben drwy ddileu'r disgrifiad yn eu teitl. Ydi, mae'r byd gwleidyddol wedi mynd yn wallgof. Am un waith yn fy mywyd gallwn gytuno 芒 sylwad gwleidydd a ymatebodd i hyn, sef Jenny Randerson, cadeirydd ymgyrchoedd y Democratiaid Rhyddfrydol a ddywedodd fod yr ailddelweddu yma "ychydig fel paentio eich t欧 tra'n anwybyddu'r ffaith fod y sylfaeni'n dadfeilio".
"Mae Plaid wedi llwyddo i wneud smonach o'u gwefan, gyda'u amhendantrwydd yngl欧n 芒 ffont a lliw y teitl 'Plaid' yn eu logo yn adlewyrchu'r smonach maent bellach yn eu wneud o bolis茂au a delweddau'r blaid. Dylent gymeryd dalen o lyfr Cymru X sydd yn eu rhagflaenu o ran eu delweddau a'u cyflwyniad yn gyffredinol. Yng ngolau hyn oll, ystyriwch: pa ryfedd fod gennym bellach dri mudiad iaith yng Nghymru? Yw hyn yn adlewyrchiad o'r ffaith nad yw Plaid Gwleidyddol Cymru yn gweithredu'n ddigon effeithiol? Do, cawsom Gynulliad, cawsom 'Senedd' nad yw'n Senedd a buodd Plaid Cymru'n flaenllaw yn y broses o gael rhyw fath o hunanlywodraeth i Gymru. A yw hyn yn ddigon da? Pam na wnaiff Cymdeithas yr Iaith, Cefn a Chymuned ddod ynghyd 芒'r Blaid gan uno i greu Cymru well? Buasai hyn yn sicr yn gwneud mwy o synnwyr na newid logo!
"Os yw'r blaid yn credu fod dileu 'Cymru' a newid delweddau gweledol yn mynd i ehangu eu hap锚l ac am wneud iawn am fethiannau'r pum mlynedd ddiwethaf, yna maent yn gwneud andros o gamgymeriad! Efallai y cofiwch mai dileu'r hen symbol a mabwysiadu blodyn wnaeth y Blaid Lafur Newydd hefyd. Dim ond gobeithio nad aiff Plaid Cymru ar yr un garlam wleidyddol i nunlle.
"Dywedodd Dafydd Iwan fod y symbol yma'n adlewyrchu 'dechrau newydd' i'r blaid ond ai adlewyrchu dechrau'r diwedd y mae mewn gwirionedd? Yn sicr, mae ganddynt bladras o broblem ar eu platiau gwleidyddol sydd angen ei datrys ar fyrder sef, sut i gynyddu pleidleisiwyr i'r blaid wedi'r lleihad a fu ers 1999. Mae'n wir na ddoiff 'chwyldro' gwleidyddol oni fydd newid yn yr arweinyddiaeth a Duw a'n helpo os nad yw Plaid Cymru yn sylweddoli hyn! Y cam naturiol i ddatrys y problemau yma fuasai i'r 'gwleidyddion' roi taw ar eu tafodau miniog a chanolbwyntio, nid yn unig ar y pethau gweledol, ond hefyd ar y pethau annelwig. O wneud hyn buasent yn darganfod yn fuan iawn mai'r pethau annelwig hynny sydd bwysicaf. Ystyriwch: beth yw t欧 heb sylfaen?
"Peidiwch a fy nghamddeall i - nid yw'r ailddelweddu yma'n ddrwg i gyd. Mae'r Pabi Cymreig yn atyniadol, hyfryd a phob tro y byddwch yn ei weld ar y wyndarffwl w锚 bydd yn eich cyfarch 芒 ch芒n sy'n gwneud s诺n llawer gwell na'i gwleidyddion.
"Ydi, mae'r 'Blaid' wedi llwyddo i greu logo gweledol, lliwgar sydd yn wych, os fuasai'n gwmni masnachol. A yw'r logo yma'n addas i 'gwmni' gwleidyddol? Dwi'n amau'n fawr. Delweddau gweledol yw'r rhain, sy'n apelio i'r glust a'r llygaid, ond beth am yr ymennydd? A yw'r Blaid yn credu fod poblogaeth Cymru i gyd yn ddwl fel batiau ac yn dilyn ei gilydd fel defaid? Mae'n debyg eu bod. Felly, na phoener, Ieuan Wyn Jones na Dafydd Iwan, dim ond cefnogaeth llond llaw o'r 'werin datws' rydych ei angen ac fe fydd cefnogaeth Cymru gyfan gennych a byddwch 'yma o hyd' yn saff yn eich swyddi."
Fflur Rees Roberts
Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng 成人论坛 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.