SYLWER: Ers cyhoeddi'r erthygl yma mae hela llwynogod gyda ch诺n wedi cael ei wahardd ym Mhrydain. Ym Mhrydain heddiw, mae hela llwynog yn chwaraeon poblogaidd iawn. Ond mae nifer o bobl yn ei erbyn o ac yn fy marn i mae'n greulon a chas. Wrth hela llwynog mae yna nifer o bobl ar geffylau a gr诺p o g诺n. Maen nhw'n dilyn y llwynog drwy gefn gwlad, cyn i'r llwynog flino ac yna bydd y c诺n yn ei ddal a'i ladd o. Mae'r bobl sy'n cefnogi hela llwynog yn dweud fod llwynog yn beryglus i gefn gwlad ac yn cario afiechyd ac yn lladd anifeiliaid fferm. Hefyd maen nhw'n dweud fod hela llwynog yn ffordd dda i gadw'r rhifau i lawr, ac yn credu fod hela'n ffordd garedig! Mae pobl sy'n ei erbyn o'n dweud ei fod yn greulon ac maen nhw'n trio stopio hela yn aml, ond dim ond pobl sy'n cael ei brifo. Maen nhw'n dweud fod y llwynog yn cael ei ladd mewn ffordd angerddol. Ond mae'r rhan fwyaf o bobl yn meddwl fod rhifau'r llwynog angen cael eu cadw i lawr, ond dim hela ydy'r ffordd i'w wneud o. Mae hela llwynog wedi cael ei wahardd yn yr Alban ers Chwefror 2002, ond doedd 'na ddim arwydd ei fod o'n mynd i gael ei wahardd yn y gwledydd eraill. Ond yn ystod 2004 roedd yr MP's yn pleidleisio am waharddiad, ond dydy o ddim yn mynd i fod yn gyfraith gwlad nes mae'n cael cymeradwyaeth gan D欧'r Arglwyddi yn Llundain. Os nad ydi T欧'r Arglwyddi yn cymeradwyo'r gwaharddiad mae'r llywodraeth yn gallu defnyddio cyfraith arbennig o'r enw 'Parliament Act' i wneud yn si诺r fod y gwaharddiad dod yn gyfraith. Ond beth bynnag sy'n digwydd, dydy o ddim yn mynd i fod yn gyfraith tan Tachwedd 2006.
|