Enw'r llyfr: The Truth Cookie Awdur: Fiona Dunbar Pris: 拢4.99 ISBN: 1843625490Cymeriadau: Lulu, Mike - tad, Varaminta - llysfam, Torquil - llysfrawd, Aileen - glanhawr a ffrind, Frenchie - ffrind gorau Lulu, Cassandra, Mr Otto a Poochie - ci Varaminta. Stori: Mae gan dad Lulu Baker gariad newydd, Varaminta Le Bone. Mae hi'n ddynes brydferth, ond pan dydi Dad ddim yna, mae hi'n wenwyn pur. Sut gall Lulu fyw efo Torquil, ei llysfrawd slei? A sut gall hi ddangos i Dad pwy ydi Varaminta go iawn? Efallai gwneith llyfr cyfarwyddyd rhyfedd a defnyddiau anarferol wneud y tric ... Hoffi/cas谩u pam? Lara: Yn fy marn i, roedd y llyfr yn gr锚t! Roedd yn ddoniol, a chyffrous, roedd pob cymeriad yn ddiddorol mewn ffordd wahanol. Doeddwn i ddim yn gallu rhoi'r llyfr i lawr! Lydia: Roeddwn i yn hoffi y llyfr yma oherwydd roedd y stori yn wreiddiol ac yn ddoniol. Roedd gan y cymeriadau enwau rhyfedd ac roedd hynny yn gwneud y llyfr yn fwy diddorol. Hoff ddarn: Lara: Fy hoff ddarn oedd pan daeth Varaminta a Lulu i'r parlwr pincio ar ben-blwydd Lulu, a doedd hi ddim eisiau mynd. Felly cnociodd drosodd dwb o gwyr a rhedodd i ffwrdd allan o'r siop. Roedd pawb arall yn sownd yn y parlwr - doedden nhw ddim eisiau llosgi eu traed ar y cwyr poeth! Lydia: Fy hoff ddarn yn y llyfr hwn ydy pan mae Torquil yn bwyta un o'r truth cookies ac yn dweud y gwir am beth mae o wedi ei wneud yn ddrwg. Rydw i hefyd yn hoffi'r darn pan mae Lulu yn gwneud bisgedi. Marc allan o ddeg? Lara: Rydw i'n rhoi 9 allan o 10 i'r llyfr. Roedd yn llyfr eithaf byr, sydd yn siomedig. Hoffwn i ei fwynhau am hirach. Lydia: Faswn i yn rhoi 7 allan o 10 i'r llyfr yma.
|