Roedd hon yn daith a hanner.
Codais am chwarter wedi pump yn y bore. Roedd hi'n dywyll fel bol buwch. Cefais frecwast a chychwyn i Gaergybi oherwydd roeddwn yn mynd i Ddulyn am y diwrnod.
Teimlodd y daith i Gaergybi yn weddol hir a bod yn onest. Balch oeddwn o weld Pont Britannia a'i 'archau' llwyd, cryf. Edrychai Afon Menai yn llonnydd a chysglyd.
O'r diwedd daeth yr A55 i ddiwedd a chyrhaeddasom Caergybi. Roeddwn yng nghwmni Nain, Mam a'm mrawd bach.
Aethom ar fws i ddal y llong i Ddulyn ond yn 么l y dreifar, roedd rhaid disgwyl hanner awr nes y gallwn fynd ar y llong. Roedd yna drafferthion technegol arni. Nid oeddwn yn poeni llawer, ond yn anffodus pan aethom ar y llong roedd problemau eraill - yn lle cymeryd 99 munud i groesi'r m么r cymerodd ddwy awr a hanner.
"O na, pam heddiw?" cwynodd mam.
Er ein trafferthion , roeddwn i a mrawd bach yn gyffrous iawn, nid oeddwn wedi bod ar long o'r blaen!
Roedd y m么r yn edrych yn ddyfn ac yn fudur, wrth edrych arno daeth rhyw deimlad rhynllyd drostaf, fflachiodd meddyliau negyddol i'm mhen ond torrodd Nain nhw gan ofyn: "Wyt ti'n iawn?"
O'r diwedd roeddwn yn Nulyn. Edrychai'r llongau fel cewri mawr dewr yn y porthladd. Ar 么l cyrraedd y ddinas cawsom ginio mewn bwyty. Nid oedd amser i wastraffu.
Ar 么l chwilio yn drylwyr am fws top-agored am oes, ffeindiais fws lliwgar i fynd a ni o gwmpas y ddinas hanesyddol.
Chwythai'r gwynt yn fy ngwyneb a thoddai'r haul fy mhen ond roeddwn dal i fwynhau gweld y golygfeydd bendigedig o nghwmpas.
Gwelais yr adeiladau enwog, pontydd, yr afon Liffy a'r cerfluniau enfawr. Yn anffodus nid oedd amser i weld yr amgueddfeydd na'r coleg poblogaidd 'Trinity'. Aethom i dafarn. Dechreuais ymlacio wrth wrando ar gerddoriaeth traddodiadol Gwyddeleg.....
Cyn hir daeth yr amser ini fynd yn 么l i'r porthladd i ddal ein llong yn 么l i Gymru fach. Cawsom dacsi cyfforddus. Llawer gwell na'r hen fws.
Eisteddom yn dawel mewn seddi yn y porthladd. Suddodd fy nghalon wrth i'r swyddog gyhoeddi ein bod yn gorfod aros tair awr arall am ein llong, oherwydd y problemau technegol. Roeddwn yn dechrau blino; yr unig beth yr oeddwn eisiau gwneud oedd mynd adref. Roedd hon yn troi allan i fod yn daith a hanner.
Pan gyrhaeddom borthladd Caergybi roedd hi'n hanner awr wedi deg yn y nos! Cyfrais yn flinedig yn fy mhen yr oriau yr oeddwn wedi bod yn effro ... Un-deg-saith awr, caeodd fy llygaid yn dynn a chwympais i gysgu gan wrando ar s诺n a symudiad y car.
Erbyn cyrraedd adref , roedd hi'n hanner nos. Meddyliais am yr holl daith; credaf nad oeddwn wedi bod ar un mor hir erioed o'r blaen.
Balch oeddwn o gael mynd i'm gwely braf a chysgu ...