Roedd yn ddiwrnod braf a'r plant ar wyliau haf. Eisteddai Arian a Grug ar ben giat yn sgwrsio. Roedd golwg drist iawn ar Arian. "Mae Stwnsh ar goll," meddai Arian gan sychu ei llygaid wrth syllu i'r pellter. Gobeithiai weld Stwnsh, ei chi, yn rhedeg tuag ati drwy'r coed yn waelod y cae! "Ti di chwilio ar lan m么r," gofynnodd Grug. "Do, dwi wedi chwilio'r traeth i gyd," atebodd Arian. "Ti'n meddwl ei fod wedi rhedeg i Penygroes i fysnesu, mae o wedi gwneud hynna o'r blaen!" "Dwi di holi pawb, a pob siop," meddai Guto'n drist. "Wel ta wyt ti di chwilio yn y co-op yn Penygroes," holodd Grug. "Pam ar y ddaear fysa Stwnsh yn co-op Penygroes," gofynnodd Arian gan edrych yn wirion ar Grug. Roedd hon yn dod i fyny gyda syniadau gwirion weithiau meddyliodd wrth ei hun. "Wel ti byth yn gwybod, ella ei fod wedi mynd i mewn i'r storfa, cerdded i fyny ac i lawr y siop, dwyn rwbath i fyta a cuddiad eto." "Ti ddim yn meddwl ella fysa rywun wedi sylwi ar gi mawr yn cerdded pasio nhw yn y siop yn n么l ham o'r rhewgell?" gofynnodd Arian. "Mmm, ella bod hynna'n bwynt," atebodd Grug.
"Reit ta, ti di chwilio yn ymyl Cwm Dulyn," gofynnodd Grug eto.
"Na dydi Stwnsh byth yn mynd am y mynydd na'r llyn sai'n dod i hynny, er cofia di mae o'r unig le dwi heb edrych, tyd awn ni am dro," a cychwynnodd y ddau am y cwm.
Wrth gerdded gwelsont fan y co-op yn dod a nwyddau i dai yn Nebo. Gwelodd Arian mai rheolwr y siop oedd yn dreifio'r fan a cododd law arno. Yn sydyn, edrychodd y rheolwr arni a gweiddi nerth ei ben a chwifio ei ddwy law yn ffyrnig.
"Argol, be sy ar hwnna," gofynnodd Grug. "Ella ei fod yn fed up o Stwnsh yn dwyn ei ham, dos i ofyn wrtho os ydi o wedi sylwi ar gi yn campio yn ei siop ai peidio," chwerthodd Arian. "Ia dwi'n meddwl nai hefyd," meddai Grug gan droi a cherdded tuag at y rheolwr. "O joc oedd honna, paid a bod mor wirion neith pawb chwerthin am dy ben eto," atebodd Arian yn annifyr.
Cariodd y ddwy ymlaen at y llyn gan gyflymu i gael gwared o'r dyn gwallgo oedd yn dal i weiddi ar eu hol. Erbyn cyrraedd pen y mynydd roedd y ddwy'n chwys domen ac yn pwffian yn y gwres. Dringodd Grug i ben wal: "Yli dacw fferm Cae Gwyn, tyrd awn ni ofyn i'r perchnogion newydd os ydynt wedi gweld golwg o Stwnsh."
Wrth ddod at y t欧 gwelsant dri dyn yn dod allan o'r drws ffrynt. "Helo," gwaeddodd Arian wrth deimlo ei hun yn disgyn tu 么l i wal gerrig a oedd yn hanner disgyn. "Be ti'n neud Grug", "Yli pwy di'r boi cynta na, yr hen Tony na o dre. Does neb yn ei licio a pawb yn ei ofn, ac mae'n ofnadwy o greulon wrth anifeiliaid medda nhw."
Cuddiodd y ddwy gan wylio'r tri dyn yn cerdded at sied fychan o flaen y t欧. Aeth y tri i fewn i'r sied. "Shd", meddai Arian yn sydyn, "glywist ti s诺n cyfarth pan agorodd drws y sied na," gofynnodd wrth Grug, "ac mi fyswn yn nabod y s诺n yna'n rwla. Mae Stwnsh yn y sied, tyrd." Cododd Arian a dechrau camu tuag at y sied. "Paid a symud," meddai Grug, "disgwyl nes mae'r tri wedi mynd yn 么l i'r t欧, dwi ddim yn meddwl fod pob dim yn iawn yn fama."
Arhosodd y ddwy nes i'r dynion fynd yn 么l i'r t欧 ac yna i lawr a nhw dros y wal a cherdded yn dawel at y sied y tu 么l i'r t欧.
Yn sydyn agorodd drws y t欧 a daeth y dynion allan eto. Rhedodd y ddwy i'r llwyni a chuddio yno. Aeth y ddwy ar eu cwrcwd, yn ofni symud, yn ofni anadlu. Daeth y dynion yn nes ac yn nes. Roedd ar ben ar y genod! Ond troi i ffwrdd wnaeth y dynion at ddrws y sied.
Clywodd y ddwy y dynion yn siarad. "Rhaid i ni lwytho'r fan a mynd am Lerpwl cyn i neb sylweddoli fod eu tai wedi cael eu gwagio. Well i ni fynd a'r ci na efo ni cofn fo neud s诺n. Ar 么l cyrraedd Lerpwl geith fynd, mi fydd ddigon pell o adra erbyn hynny." Ar hynny neidiodd Arian wrth feddwl am Stwnsh yn mynd yn y fan.
Cuddiodd y ddwy eto ond camodd un o'r dynion yn nes ac yn nes. Roedd y ddwy ar eu cwrcwd eto. Safodd y dyn yn eu hymyl. Edrychodd y ddwy i fyny. Roedd y dyn yn edrych a gwen fileinig arnynt, ei wefusau ar dro, ac yn dangos dannedd miniog, melyn, hyll.
Cydiodd y dyn yn Arian a'i law fel crafanc yn cau am ei braich. Ceisiodd Grug wthio o'r llwyni ond roedd y dyn wedi cydio ynddi hithau hefyd. Daliodd yn dyn yn y genod a'u gwthio a'u llusgo at ddrws y sied cyn eu taflu i mewn. Disgynnodd y ddwy yn swp ar y llawr. Clywodd y ddwy y bollt haearn yn mynd i'w le. Roedden nhw wedi eu cloi i mewn.
"Sut dani'n mynd i gael Stwnsh yn rhydd Grug," gofynnodd Arian. "Wel lwcus i chdi fod dad wedi plicio afal i mi bora ma gyda'i gyllell boced a finnau wedi gafael ynddi heb feddwl wrth fyta'r afal."
Aeth Grug ati i dorri'r rhaff oddi ar Stwnsh. Cymerodd dipyn o amser i wneud hyn oherwydd roedd y rhaff mor fawr a'r gyllell mor fach.
"Reit rhaid i ni ddianc cyn y daw'r dynion na'n 么l," meddai Arian. "Os oeddant yn barod i adael Stwnsh yn Lerpwl a fo'n methu siarad lle wnawn nhw'n gadael ni!" "Beth am y drws," holodd Grug. "Wel paid a bod yn wirion fysa hwnna'r peth cyntaf i gael ei gau siwr, beth am y ffenast na?". Siglodd Grug ei phen, "Na mae'n lot rhy fach." Edrychodd y ddwy ar Stwnsh gyda ofn yn eu llygaid.
Yn sydyn rhedodd Stwnsh at gefn y sied a dechreuodd chwyrnu a gwichian fel petai am dynnu eu sylw. Aeth Arian ato. "Hei Grug sbia. Mae'r pren yn pydru yn y gornal yma." Penliniodd y ddwy a tynnu'r pren gyda'i holl nerth nes o'r diwedd daeth lwmp o'r pren yn rhydd. Yna tynnodd lwmp o bren arall, ac un arall.
O'r diwedd roedd twll yn y llawr. Off a nhw. Cropiodd Grug drwy'r twll a Stwnsh ar ei h么l. Ar hynny daeth s诺n traed at y drws. "Brysia mae'r dynion yn dod," gwaeddodd Grug ar Arian yn uchel. Pan agorodd y dynion y drws roedd Arian yn gwthio drwy'r twll. Rhedodd y tri tuag at y pentref gan stopio yn y t欧 cyntaf a ffonio'r heddlu yn Penygroes.
Rhedodd y tri yn 么l tuag at y ffarm gan guddio yn ymyl y wal. Gwyliodd y tri y dynion yn brysur rhoddi sachau o'r t欧 i'r fan cyn clywed car yr heddlu y tu allan i'r gi芒t. Er i'r dynion geisio dianc fu'r Heddlu fawr o dro yn eu dal.
Cerddodd y tri at y swyddog yn y car. "Wel, dwi'n cymryd mai chi a wnaeth y galwad i'r swyddfa ia - dewr iawn hogia," meddai'r swyddog wrth Arian a Grug. "Wel mi fyddwch yn falch o glywed ein bod ar 么l y tri yma ers amser felly diolch am eich gwaith caled. Hoffech lifft adra?"
"Na," atebodd Arian, "dim diolch, mi gerddwn gyda Stwnsh. I ffwrdd 芒'r heddlu a dechreuodd y ddwy gerdded tuag at Nebo. Yn sydyn daeth cerbyd i fyny ac arafu tu 么l i'r ddwy. Stopiodd y fan a cerddodd rheolwr y co-op tuag atynt.
"Wel dwi'n falch eich bod wedi ei ffeindio," meddai wrth edrych ar Stwnsh. "Mi gampiodd yn ein storfa ni am rai dyddiau cyn i ryw ddyn ei ddychryn oddi yno, rhedodd i ffwrdd a gwelais ddim ohono wedyn. Mi glywais bore ma eich bod yn chwilio amdano felly pan welais y ddwy ohonoch bore ma mi waeddais ond ni wnaethoch fy nghlywed."
Edrychodd Arian yn geg agored ar Grug a oedd yn iawn am leoliad Stwnsh wedi'r cwbl. "Beth oedd yn ei fwyta tra roedd o efo chi yn y co-op felly," gofynnodd Grug. "Wel dyna beth oedd mor funny am y peth. Ar 么l i'r siop gau mi fydda yn cerdded a hyd y siop i'r rhewgell a dwyn ham." Chwerthodd Grug a'r rheolwr ond roedd Arian mewn gormod o sioc i ddweud na gwneud dim.