Cerddais i lawr y grisiau'n gynnwrf i gyd. Doeddwn i ddim yn credu'r peth! Roedd y diwrnod mawr wedi dod. Ond lle'r roedd Mam?Cerddais i mewn i'r gegin a dyna lle oedd 'na ddynes efo llond pen o gyrlyrs a coban nos grand. Roedd hi'n edrych yn hurt. Doeddwn i erioed wedi gweld rhywbeth mor ddoniol. Ond mae'n siwr mai fel 'na dach chi i fod i edrych ar ddiwrnod eich priodas.
Ia, 'dach chi yn iawn, roedd fy Mam i'n priodi, a dwi'n siwr eich bod chi'n meddwl "cwl efo C fawr," ond na dim fel na mae hi deud y gwir. Roedd fy Mam i yn mynd i briodi y dyn mwyaf cas yn y bydysawd, a'i enw yw Selwyn Hughes (Selwyn Slei i mi).
Glywais i o yn siarad ar y ff么n efo rhyw ddynas lawr grisiau rhyw wythnos yn 么l felly es i fyny'r grisiau mor dawel a llygoden fach. Codais y ff么n oedd yn llofft Mam a clywais y ddynas yn deud.
"Cariad, cofia paid a gwneud i dy hun edrych fel dy fod ti mond moen yr arian. Dwi'n gwybod mai dyna'r unig reswm ti na ... i gael yr arian. Hwyl fawr cariad. Fydd hi ddim yn hir nes y byddwn ni da'n gilydd eto ond yn yr America fydd o yr amser 'na. Hwyl."
Roedd y llais fel rhywun o'r de, ond dydi hynny ddim yn bwysig ar y funud. Ydach chi'n deall? Roedd Selwyn Slei yn defnyddio fy Mam i oherwydd ei phres, a'r broblem oedd sut oeddwn i'n mynd i ddweud hynny wrth Mam, oherwydd roedd Mam wedi mopio hefo'r boi Selwyn Slei 'ma.
O na, roedd Mam yn edrych fel ei bod hi'n mynd i ddweud rhywbeth. "Lili? Rwyt ti yn hoffi Selwyn dwyt? Oherwydd ti di bod yn actio fel dy fod ti yn ei osgoi o?" meddai Mam. Dyma fy nghyfle, meddyliais, ond yr eiliad nesaf daeth Nain i mewn i'r ystafell a dywedodd: "Ty'd rwan Lili rhaid i ni wneud dy wallt di neu mi fyddi di'n hwyr, a ty'd Lois paid a sefyll fan'na'n gwneud dim byd, cofia dy ddiwrnod mawr di ydi hi," siarsiodd Nain. Dwi'n siwr ei bod hi'n amau Selwyn Slei hefyd, oherwydd mae hi wedi bod yn ei osgoi o hefyd.
Mae fy Nain yn ardderchog gyda gwallt ac erbyn iddi orffen roeddwn i'n edrych fel tywysoges. Edrychais yn y drych a meddyliais eto am sut oeddwn i yn mynd i ddweud wrth mam. Yna daeth mam i mewn i'r ystafell ar ei phen ei hun. Diolch byth ... i mi ac iddi hi!
"Sori Lili, me dy nain yn amlwg yn fwy nerfus na fi! Dim ots am hynny rwan. Mi wyt ti yn hoffi Selwyn yn dwyt?" meddai'n ofidus.
"Ym ... ydw ... dwi'n meddwl ei fod o'n gr锚t," dywedais yn llawn ofn! Ond o na, be oeddwn i'n ei ddeud? Roedd hyn yn ofnadwy! Ac i wneud pethau'n waeth rhoddodd Mam sws imi.
"Dwi mor falch o hynny oherwydd roeddwn i'n dechrau meddwl nad oeddet ti'n ei hoffi fo. Ty'd mae Nain yn disgwyl i roi y ffrog hyfryd 'na amdanat ti."
Cyn i mi gael amser i gym'ryd fy ngwynt roedden ni yn y capel ac yn agosau at y darn hwnnw lle mae'r ddau sy'n priodi yn dweud "gwnaf". Ond cyn hynny dyma'r gweinidog yn dweud: "Os g诺yr rhywun am unrhyw reswm pam na ellir priodi'r ddau yma, dyweded hynny'n awr..."
A'r eiliad honno rhedodd dynes mewn oed i mewn a'i gwynt yn ei dwrn a gweiddi nerth esgyrn ei phen: "Stopiwch ar unwaith ... mae'r dyn yna wedi priodi! Ac mae o'n mynd i ddwyn eich pres chi i gyd!"
Ochneidiodd pawb yn y capel, a dechrau siarad ymysg eu gilydd.
"Ydi hyn yn wir, Selwyn?" gofynnodd Mam trwy ei dagrau.
"Y ... y ... y ... fedra i egluro bob dim, cariad."
"O, na fedri di ddim. Cymer hon fel sws ta-ta!" Ac ar hynny rhoddodd Mam glustan enfawr i Selwyn Slei a gwaeddodd pawb "Hwre!". Yna trodd Mam ataf i a Nain a dweud: "Tyrd, Lili fach, dewch Mam, mae gennym ni waith pacio i'w wneud. Mae gen i dri ticed Mis M锚l i America, ac mi rydan ni yn mynd i gael amser gwych."
Ac felly, fues i'n dathlu gyda'r ddwy ddynes bwysicaf yn y byd yn America - dathlu beth? Dathlu na wnaeth Mam briodi Selwyn Slei!