Roedd Nain yn dathlu penblwydd arbennig mis Gorffennaf diwethaf. Dathlu ei phenblwydd yn 70 oed. Mae hwn yn oedran teg ac felly rhaid oedd dathlu, ac achosodd y mater dipyn o gur pen i Dad a Mam. Cwynai Mam na wyddai sut i ddathlu'r achlysur a hynny heb wneud mor a mynydd o'r digwyddiad. Y gamp, meddai Mam, oedd trefnu rhywbeth chwaethus, digonol, a hynny heb or-wneud pethau.
"Mae'n anodd," oedd sylw Mam. "Gall nain fod yn anodd i'w phlesio ambell waith, ac y mae hynny'n gwneud yr holl beth yn llawer anoddach. Mi feddylia i yn reit galad am syniadau, a thrafod ymhellach wedyn hefo chi i gyd."
Roedd "chi i gyd" yn cyfeirio at Dad, Elfair, Rhiain a fi, Hedydd. Mae Nain yn dda iawn hefo ni i gyd, ac yr oedd pawb yn cytuno gant y cant na fedrai'r achlysur fynd heibio heb ddathlu a dangos ein gwerthfawrogiad.
Yna i gymhlethu pethau ymhellach galwodd brawd Mam rhyw ddydd Sul i awgrymu ein bod yn llogi'r neuadd bentref a gwahodd, mwy neu lai, pob adyn byw o Fynytho. Roedd wyneb Mam yn bictiwr. Ni allai gredu ei chlustiau, a chwythodd ffiws go iawn pan ychwanegodd Yncl Dilwyn mai mam fyddai'r "un orau i wneud y bwyd." Fu Mam fawr o dro yn esbonio i'w brawd fod hwn yn ddiwrnod rhydd iddi hithau hefyd, ac nad oedd ganddi unrhyw fwriad i "goginio bwyd poeth na pharatoi bwyd oer", ac iddo feddwl unwaith eto am syniadau i ddathlu penblwydd Nain.
Aeth Yncl Dilwyn gartref yn ddigon distaw, a'i ben yn ei blu. Gwyddai iddo daro nerf go delicet, a dwi'n siwr iddo ddifaru ei enaid ei fod wedi agor ei geg yn y lle cyntaf!
Aethai'r wythnosau heibio, a neb fymryn callach. Holais fwy nag unwaith, "Sut ydan ni am ddathlu penblwydd Nain? Syrpreis fydd o i Nain, ia?" Roedd Mam yn amlwg yn cael llond bol ar fy holi cyson, ac yn dweud wrtha i am feddwl am syniadau call yn hytrach na swnian a holi!
Yna, un prynhawn Sadwrn braf, aeth Mam am dro o amgylch y pentref a daeth drwy ddrws y t欧 yn gweiddi, "Dwi di cael syniad. Mae'r ateb yma o dan ein trwyna ni. Beth am gael parti yn y Twynfa? Chawn ni unman gwell, a does dim rhaid i ni deithio ymhell. Lawr l么n yn llythrennol. Cerdded pob cam. Dwi am fynd yno 'fory!"
Roedd golwg reit siomedig ar ein hwynebau ni i gyd. Parti mor agos i adra! Lle'r oedd yr hwyl yn hynny? Beth bynnag, doedd dim troi ar Mam, ac aeth i ddweud faint o ganmol oedd ar y bwyd yno, a pha mor bwysig oedd cefnogi busnesau lleol.
"Wel ia," meddai Rhiain yn ddi-amynedd. "Mae na synnwyr ar leol yn 'does. Waeth i ni fod adra ddim." Roedd Mam yn flin oherwydd ein sylwadau negyddol, a dywedodd nad oedd am glywed mwy am y peth!
Roedd Mam yn fwy na bodlon hefo'r trefniadau ac yr oedd y fwydlen yn ddigon i dynnu d诺r i'r dannedd, mae'n rhaid cyfaddef. Anfonwyd ugain cerdyn gwahoddiad i berthnasau a ffrindiau, ac addawodd pob un fod yn bresennol i ddathlu'r digwyddiad mawr ym mywyd Nain! Dywedwyd wrth Nain ein bod ni'n pump ac Yncl Dilwyn yn mynd a hi am ginio dydd Sul, ac roedd nain yn amlwg yn edrych ymlaen yn eiddgar.
Ddiwrnod y penblwydd roedd yr haul yn danbaid, a phawb mewn hwyliau ardderchog. Roedd wyneb Nain yn bictiwr pan gyrhaeddodd y gwesteion fesul un, ac roedd ei ffrind wedi gwneud cacen fendigedig i ddathlu'r achlysur. Roedd yr haul yn fonws oherwydd roedd pawb yn cael siarad y tu allan yn yr ardd a mwynhau'r olygfa cyn bwyta! Yna, camodd gwraig ddiethr i ardd y bwyty, a cherdded yn syth i gyfeiriad Nain.
"Yma mae parti penblwydd rhywun arbennig, ia?" gofynnodd yn siriol. Roedd y wen ar wyneb Nain yn dweud y cyfan! Ffrind ysgol i Nain o Gaer, a Mam wedi trefnu'r cyfan heb ddweud yr un gair wrth neb! Dyna beth oedd anrheg penblwydd gwerth chweil!
Oedd, roedd Mam yn llygad ei lle. Roedd pob dim oedd ei angen i ddathlu i'w gael o dan ein trwynau, ar stepan ein drws!