Doedd Nain yn gwybod dim am ei phenblwydd yn wythdeg oed, wel na finnau chwaith. Ta waeth.
Bore dydd Sadwrn 20fed o Chwefror penblwydd Nain. Nain T欧 Gwyn da ni yn ei galw hi, oherwydd ei bod yn byw mewn t欧 gwyn. Roedd Mam wedi cynllunio syrpreis i Nain a fi. Roedd wedi cynllunio cael bwyd yn Maes y Neuadd. Dim ond teulu agos oedd i fod i ddod, medda Mam. Pwy oedd yno ond pawb yn y byd bron, Anti Gwen, Anti Bet, Anti Eda, Anti Nin, Edward a Mair Ymwlch. Mi fuaswn yn gallu ysgrifennu pwy oedd yno tan oes pys, 'sa hynny braidd yn ddiflas. Cafodd pawb ginio ardderchog chwarae teg i Maes y Neuadd. Bron i Nain lewygu ar 么l gweld yr holl bobl oedd yno. Roedd pawb wedi bwyta llond eu boliau, nes bod eu botymau wedi torri i ffwrdd. Ond nid oeddwn wedi bwyta llawer, na nghefndar chwaith, bisgedi a quavers ar 么l cyrraedd adre. Diod wedyn. "Dim byd rhy gryf," medda Nain neu mi fuasa Nain yn feddw gocls. Cafodd lasiad o win bach, dim rhy fawr dim rhy fach. Cofiwch, penblwydd Nain oedd o wedi'r cwbl.
|