Amser maith yn 么l roedd tywysoges yn byw mewn tref o'r enw Llygadwyl. Catrin oedd ei henw hi, ac roedd chwaer mwy pwysig na hi. Roedd ei chariad Parli yn ei troi yn ddynes cas a blin. Cyn bo hir roedd Catrin yn genfigenus o'i chwaer, tywysoges Maria. Roedd Parli eisiau llygad Maria oherwydd roedd yn hudol. Roedd eisiau i Catrin ei lladd: un - wedyn byddai yn frenin gyda Catrin; dau - mi fydd yn cael y llygad hudol. Roedd g诺yl y cariadon yn dod i fyny, a roedd Catrin a Parli wedi bod yn cynllunio cynllun i ladd Maria. Daeth y noson fawr. Roedd pawb yn mwynhau y noson nes i Catrin ddal Maria, a'i lladd. Tynnodd Parli ei llygad allan o'r ochr chwith. Roedd y llygad dde yn gweld dyfodol gwych a hapus ond roedd Parli wedi cymryd y llygad chwith a oedd yn gweld pethau dychrynllyd a anhapus! Digwyddodd marwolaeth Maria ar Fehefin 13, ar ddydd Gwener. Mae pobl yn dweud mai dyna y rheswm y galwyd Llygadwyl, oherwydd yr lygad a noson yr 诺yl (ond mae yna reswm arall, y capten a'i griw, ar fordaith i wledydd na wyddom!) Dyma lun o'r ddwy chwaer. Roedd y ddwy yn hardd iawn. Roedd llawer yn disgyn mewn cariad 芒 Maria. Yn hwyrach ymlaen yn y stori, mi a'th Catrin i fyw yn y wlad bodoloaeth di-ri, sef America. Marw wnaeth Parli ar ben mynydd serth - gwelodd yn digwydd drwy'r lygad. Roedd arfer bod palas wrth d欧 y maer blynyddoedd lawer yn 么l, mae pobl yn dweud, ond mae pawb yn cwestiynu. Mae plant yn hoff o wneud perfformiad o'r stori yma pob Mehefin 13.
|