Rwy'n eistedd yn fy hen gadair, wrth ymyl yr hen gloc, wrth yr hen luniau, yn yr hen, hen barlwr, yn yr hen, hen d欧, sydd ar yr hen, hen l么n. Mae'r cloc yn eistedd wrth y piano yn disgwyl i rywun ddod 芒'i achub o'r gwynt a'r glaw. Mae twll anferth yn y to. Mae'r twll yn y to yn hen hefyd, ers i barti priodas mawr fy merch, Ellen, gael ei gynnal yma 70 mlynedd yn 么l. Mae hi yn 90 rwan. Anodd coelio dwi'n gwybod. Parti priodas Ellen oedd hi, y ferch ieuengaf, wel, merch ieuengaf fi a fy ng诺r Jimmy. Jimmy Glyn Tiddle Roberts. Dyna ei enw. Wel, well im gario 'mlaen hefo fy stori r诺an, neu wnai byth orffen. Roedd hi'n noson stormus ofnadwy - y moroedd yn rhuo a'r gwynt yn chwythu yn gas am y plas. Plas Mawr yr Oerfel ydi enw'r plas yma. 'Sgwn i pam?!
Dwi'n cofio cael amser da yn y parti, dawnsio gyda Jimmy, bwyta llond bol o fwyd a chroesawu pawb i mewn i'r t欧 a ballu.
Wel, roeddwn i'n cael amser da iawn ar y cyfan, ond ... am hanner nos, fe aeth bob dim o chwith. Baglodd Elwyn Cadwaladr Owen dros y mat wrth garlamu i chwilio am ddiod. Rhaid imi gyfadda - fedrwn i ddim peidio chwerthin o dan fy ngwynt!!
Fe ddechreuodd John Plas Pen-Blodyn chwythu'r canhwyllau allan yn ddireidus!
Roedd Mrs James o Blas Gwynn yn ffraeo gyda Lora y forwyn, y gerddorfa eisiau mynd adref, y bwtler yn flin oherwydd ei fod wedi blino, ffrog briodas Ellen hefo gwin coch yn llifo drosti fel gwaed, roedd y storm mor sarrug, roedd y ffenestri yn crynu, roedd s诺n anferthol yn dod o'r to a, a ... YN SYDYN, clywais rywun yn sgrechian am Mary: "MARY!!!! MARY!!! WYT TI'N IAWN!? EWCH I N脭L Y DOCTOR!!!"
Roedd y to wedi disgyn. Rhyfedd. Tydy neb yn y byd yn gwybod ble mae Mary rwan ... heblaw amdanaf fi. Fi ydi Mary. Ysbryd ydw i.
|