Cwm Maesglasau - dyna i chi le braf. "Lle goblyn mae fanno?" medde chi, "a be sy' mor arbennig am y lle?"
Wel cwm hyfryd ydi o ar gyrion Dinas Mawddwy, a'r rheswm i Angharad Price sgwennu ei llyfr 'O! Ty'n y Gorchudd'. Hanes teulu Ty'n y Braich a geir yn y llyfr, droad y ganrif ddiwethaf, drwy lygaid y ferch Rebecca. Doedd pethau ddim yn hawdd arnynt gan i dri o'r meibion gael eu geni'n ddall. Roedd Mam a Taid wedi darllen y llyfr, gan fod Mam awydd adrodd rhannau ohono yn 'Steddfod y Faenol. Felly un pnawn Sul (cyn y Sioe Frenhinol) aeth Taid, Nain, Mam, Martha J锚n fy chwaer a minnau am dro i Ddinas Mawddwy. Cawsom groeso arbennig gan deulu Ty'n y Braich gan fod Taid yn eu hadnabod. Cawsom weld y t欧, Beibl y teulu a llun o Rebecca. Cerddasom i bendraw y cwm a gweld y pistyll yn arllwys fel ruban arian, a'r myrddynod llwm yn llawn hanes, fel y gallwn ddychmygu gweld yr hen bobl yn byw yno. Welais i erioed mo Mam mor ddistaw ar y ffordd adref, edrychai yn 么l dros ei hysgwydd ar dop allt Dinas Mawddwy fel petai yn hiraethu am y cwm - od ynte.
Ymhen amser fe ddaeth yn wythnos y Steddfod fawr. Fe aeth Taid a Mam am y 'Steddfod, doedd gen i fawr o awydd a dweud y gwir, gan fy mod i wedi diflasu ar glywed Mam yn ymarfer ei geiriau - dwi'n dal i gofio 'Moelni' hyd heddiw. Ta waeth, fel roedd Alaw fy ffrind, Martha a minnau yn chwarae, fe waeddodd Nain o'r gegin i ddweud fod Mam wedi cael llwyfan, a fod yn rhaid ini fynd ar frys am y Faenol. Ffwrdd 芒 ni efo Nain, honno wedi cynhyrfu gymaint, fel sylweddolodd ar 么l cyrraedd, fod ei ffedog yn dal amdani. Ew roeddym yn nerfus, a Taid yn smocio rols fel coblyn. Adroddodd Mam a daeth y canlyniad. Roedd Mam wedi ennill Gwobr Goffa Llwyd o'r Bryn. Roedd gwraig Ty'n y Braich ar faes y Steddfod ac wedi clywed y newydd da. Daeth at mam i'w llongyfarch. Wnawn ni byth anghofio'r diwrnod hwnnw, anghofiwn ni byth o Gwm Maesglasau na Rebecca fach. Hwre.
|